Gobaith am wobr genedlaethol ar gyfer lleoliad celfyddydau poblogaidd yn Abertawe
Mae un o leoliadau diwylliannol mwyaf poblogaidd Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.
Mae Canolfan Dylan Thomas a reolir gan Gyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr derfynol ar gyfer Gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau blynyddol a gynhelir gan gorff cenedlaethol Cymdeithas yr Amgueddfeydd.
Mae'r anrhydedd yn adlewyrchu'r gwaith a wnaed gan y ganolfan gydag Eiriolaeth eich Llais (Your Voice Advocacy, YVA), sefydliad ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Elliot King, "Mae Canolfan Dylan Thomas, fel pob un o'n lleoliadau diwylliannol, yn gwneud gwaith gwych ar draws ein cymunedau.
"Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth ag YVA yn helpu i newid bywyd er gwell, gan wella iechyd a lles cyfranogwyr, creu lle gwell iddynt ac annog ymgysylltu, myfyrio a thrafod."
Mae'r YVA wedi cwrdd bob wythnos yng Nghanolfan Dylan Thomas am nifer o flynyddoedd ac mae'n cynnig gweithgareddau megis ffotograffiaeth, curadu arddangosfeydd, creu adnoddau dysgu a chynnal gweithdai creadigol.
Mae'r Gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau yn dathlu cyflawniadau amgueddfeydd sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau eu cynulleidfaoedd a chymunedau ar draws y DU.