Toglo gwelededd dewislen symudol

Trysor diwylliannol y ddinas wedi'i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol

​​​​​​​Mae Arddangosfa Dylan Thomas Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prosiect yr Amgueddfa Fach Orau yng Ngwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau y Gymdeithas Amgueddfeydd 2022.

The Your Voice Advocacy Group

The Your Voice Advocacy Group

Mae'r gwobrau'n dathlu cyflawniadau amgueddfeydd sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl ar draws y DU, ac mae Arddangosfa Dylan Thomas wedi cyrraedd y rhestr fer am ei gwaith gyda Grŵp Eiriolaeth Eich Llais Abertawe.

Mae'r atyniad, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Abertawe yng Nghanolfan Dylan Thomas, wedi bod yn cynnal sesiynau wythnosol y grŵp ers 2017, gan ganolbwyntio'n bennaf ar roi llais i oedolion ag anableddau dysgu yn yr ardal.

Mae'r bartneriaeth wedi gweld newidiadau cadarnhaol, gan greu ffurflenni hygyrch a chanllawiau hawdd eu darllen. Mae wedi meithrin rhannu sgiliau, sydd wedi arwain at gynrychioli pobl yn well mewn deunyddiau marchnata gyda chyfranogwyr y grŵp yn chwarae rôl weithredol.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae'r ymdeimlad o berchnogaeth y mae'r Grŵp Eiriolaeth Eich Llais wedi'i ddatblygu yn Arddangosfa Dylan Thomas, fel canolfan a chasgliad llenyddiaeth sy'n ymroddedig i hunanfynegiant, wir yn ysbrydoledig.

"Mae'r bartneriaeth mae ein tîm wedi'i meithrin gyda'r grŵp yn ein helpu i greu amgueddfa well a mwy cynhwysfawr lle gall pobl wneud ffrindiau, ymgysylltu â deunydd diwylliannol, rhannu syniadau a chreu eu barddoniaeth eu hunain i fynegi eu teimladau."

Mae'r Grŵp Eiriolaeth Eich Llais yn weithredol yn y gymuned anableddau dysgu yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae partneriaeth Arddangosfa Dylan Thomas gyda'r grŵp yn hyrwyddo iechyd a lles.

I gael rhagor o wybodaeth am Arddangosfa Dylan Thomas, ewch i'r wefan yn www.dylanthomas.com.

Llun: Gwaith gan y Grŵp Eiriolaeth Eich Llais.

 

 

Close Dewis iaith