Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth newydd ar gael i gefnogwyr y theatr wrth iddynt edrych i'r dyfodol

Mae bywyd diwylliannol Ardal Forol Abertawe wedi cael hwb newydd.

Dylan Thomas Theatre

Dylan Thomas Theatre

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno i ymestyn prydles sy'n caniatáu i gwmni Swansea Little Theatre redeg Theatr Dylan Thomas yr ardal.

Mae'r cyngor yn berchen ar yr adeilad ac mae'r cwmni theatr - gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, amaturiaid a gweithwyr proffesiynol - yn ei brydlesi, gan ddenu miloedd o bobl.

Ar 20 Hydref, cytunodd y Cabinet i gymeradwyo prydles 125 o flynyddoedd newydd gydag amodau tebyg, gan gynnwys rhent rhad.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae gweithgareddau'r theatr fach hon yn cyfrannu at amcanion ehangach ar gyfer y cyngor a'r ddinas fel cyrchfan creadigol a diwylliannol - ac rydym am i hynny barhau."

Meddai Aelod y Cabinet, David Hopkins: "Bydd y brydles bresennol yn dod i ben yn 2030; mae'r diffyg sicrwydd y tu hwnt i'r dyddiad hwn yn cyfyngu ar allu'r cwmni theatr i sicrhau buddsoddiad ar gyfer yr adeilad. Bydd ein prydles newydd yn helpu i oresgyn hyn."

Mae Swansea Little Theatre wedi gweithredu'r lleoliad ers 1979. Fe'i defnyddir gan amrywiaeth o sefydliadau.

Treuliodd Dylan Thomas amser gyda'r theatr fach hon yn y 1930au.

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2022