Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cefnogaeth newydd ar gael i gefnogwyr y theatr wrth iddynt edrych i'r dyfodol

Mae bywyd diwylliannol Ardal Forol Abertawe ar fin cael hwb newydd.

Dylan Thomas Theatre

Dylan Thomas Theatre

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe ymestyn prydles sy'n caniatáu i Gwmni Theatr Fach Abertawe redeg Theatr Dylan Thomas yr ardal.

Mae'r cyngor yn berchen ar yr adeilad ac mae'r cwmni theatr - wedi'i gefnogi gan wirfoddolwyr, amaturiaid a gweithwyr proffesiynol - yn ei brydlesi, gan ddenu miloedd o bobl. 

Ar 20 Hydref, gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo prydles 125 o flynyddoedd newydd gydag amodau tebyg, gan gynnwys rhent rhad.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae gweithgareddau'r Theatr Fach yn cyfrannu at amcanion ehangach ar gyfer y cyngor a'r ddinas fel cyrchfan creadigol a diwylliannol - ac rydym am i hynny barhau."

Meddai Aelod y Cabinet, David Hopkins: "Bydd y brydles bresennol yn dod i ben yn 2030; mae'r diffyg sicrwydd y tu hwnt i'r dyddiad hwn yn cyfyngu ar allu'r cwmni theatr i sicrhau buddsoddiad ar gyfer yr adeilad. Bydd ein prydles newydd yn helpu i oresgyn hyn."

Mae Theatr Fach Abertawe wedi gweithredu'r lleoliad ers 1979. Caiff ei ddefnyddio gan amrywiaeth o sefydliadau.

Treuliodd Dylan Thomas amser gyda'r Theatr Fach yn y 1930au.

 

 

 

 

Close Dewis iaith