Cynlluniau ar gyfer ysgol newydd i Ysgol yr Esgob Vaughan yn cymryd cam arall ymlaen
Mae cynlluniau i adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan ar safle hen Ysgol Gymunedol Daniel James ym Mynydd-bach yn cymryd cam arall ymlaen.

Disgwylir i waith i ddymchwel yr adeiladau presennol ar y safle, gan gynnwys y rheini a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan YGG Tirdeunaw, ddechrau yn y flwyddyn newydd.
Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno i ariannu'r gwaith dymchwel yn rhannol ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a disgwylir i gontractwr gael ei benodi cyn bo hir i glirio'r safle.
Wrth symud ymlaen, y cynllun yw adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol yr Esgob Vaughan.
Byddai Ysgol yr Esgob Vaughan yn aros yn ei lleoliad presennol heb unrhyw darfu ar ddisgyblion a staff nes bod yr ysgol newydd yn barod i'w meddiannu.
Yna, bydd staff a disgyblion yn elwa o gyfleusterau sylweddol gwell ar gyfer dysgu, chwaraeon a hamdden.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Mae llawer o'n hysgolion uwchradd eisoes wedi elwa o fuddsoddiad ac rwy'n falch o ddweud bod ein cynlluniau ar gyfer Ysgol yr Esgob Vaughan yn gwneud cynnydd.
"Drwy weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym yn gweld y buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hadeiladau ysgol gyda mwy na £400m wedi'i glustnodi i greu cyfleusterau o'r radd flaenaf yn Abertawe i roi'r gefnogaeth orau bosib i ddisgyblion gyrraedd eu potensial llawn."
Bydd angen cyllid sylweddol o dan gynllun Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn adeiladu'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol yr Esgob Vaughan.
Er y cytunwyd i hyn mewn egwyddor, bydd angen cymeradwyaeth bellach cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.