Y dyddiad cau yn agosáu ar gyfer ceisiadau cymorth ariannol COVID
Ychydig ddyddiau'n unig sydd gan fusnesau cymwys yn Abertawe i wneud cais am gymorth ariannol brys COVID.
Mae dyddiad cau ar waith ar gyfer dau gynllun byw, sef 5pm ddydd Llun 14 Chwefror, gyda miliynau o bunnoedd wedi'u darparu i filoedd o ymgeiswyr hyd yn hyn.
Mae'r cynllun cyntaf, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, elusennau a sefydliadau nid er elw yr effeithiwyd arnynt gan Gymru'n symud i lefel rhybudd dau yn hwyr ym mis Rhagfyr.
Gallai busnesau cymwys yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi sy'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig fod â hawl i grantiau o £2,000, £4,000 neu £6,000, gan ddibynnu ar eu gwerth ardrethol os ydynt yn gwneud cais cyn y dyddiad cau.
Mae'r cyngor eisoes wedi neilltuo grantiau sy'n werth £3.75m ar y cyd i fwy na 1,460 o fusnesau fel rhan o'r cynllun hwn.
Mae rhagor o wybodaeth, meini prawf cymhwysedd a manylion cyflwyno cais ar gyfer y cynllun hwnnw ar gael yn www.abertawe.gov.uk/GrantiauBusnesArdrethiAnnomestigCovid
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae hwn yn un o ddau gynllun cymorth ariannol brys a aeth yn fyw fis diwethaf wrth i'r cyngor barthau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gefnogi'n busnesau.
"Rydym yn cydnabod pa mor heriol y mae'r cyfnod diweddar wedi bod i'n cymuned fusnes, a dyna pam y byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i ddarparu cymaint o gefnogaeth â phosib.
"Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae dyddiad cau hefyd ar waith ar gyfer ail gynllun, sef 5pm ddydd Llun 14 Chwefror, ar gyfer busnesau yn Abertawe yn y sectorau hamdden, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu nad ydynt yn talu ardrethi busnes.
"Byddwn yn annog busnesau sydd efallai'n gymwys ar gyfer y naill gynllun neu'r llall gyflwyno'u ffurflenni erbyn y dyddiad cau i sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle i gael cymorth ariannol posib."
Mae'r cynllun hwn i fusnesau nad ydynt yn talu ardrethi annomestig yr effeithiwyd arnynt gan COVID o ddydd Llun 13 Rhagfyr i ddydd Llun 14 Chwefror yn cynnwys dwy lefel o ddyfarniad grant:
- Taliad grant o £1,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden neu gadwyni cyflenwi cysylltiedig nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i'r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo
- Taliad grant o £2,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden neu gadwyni cyflenwi cysylltiedig sy'n cyflogi staff drwy gynllun Talu Wrth Ennill (yn ogystal â'r perchennog)
Mae'r grantiau hyn, sydd hefyd yn cefnogi gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol, wedi'u hanelu at gefnogi busnesau a chanddynt drosiant blynyddol o lai nag £85,000.
Gofynnir i fusnesau sydd efallai'n gymwys fynd i https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy/ lle mae'n rhaid llenwi gwiriwr cymhwysedd Busnes Cymru cyn bod ymgeiswyr yn gallu cyrchu'r ffurflen gais.
Bwriad cynllun grant y Gronfa Argyfwng Busnes hwn sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan Gyngor Abertawe yw helpu i gefnogi busnesau y mae cyfyngiadau mwyaf diweddar COVID yn effeithio arnynt, nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd.