Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiad cau ar gyfer derbyn adborth am ddyfodol trafnidiaeth yn agosáu

Wythnos sydd ar ôl i breswylwyr a busnesau roi eu barn am ddyfodol trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.

Regional transport image

Regional transport image

Bydd ymgynghoriad ynghylch achos dros newid ar gyfer Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn cau ddydd Llun 26 Awst.

Mae dros 600 wedi dweud eu dweud hyd yma.

Mae'r achos dros newid yn dangos sut mae'r cynllun yn hanfodol i gefnogi datblygiad economaidd parhaus yn y rhanbarth, wrth gydnabod ei gymunedau amrywiol a'i anghenion trafnidiaeth amrywiol.

Bydd fforddiadwyedd wrth wraidd y cynllun i sicrhau bod mynediad at drafnidiaeth ar gael i bawb.

Bydd cynlluniau Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru  ar gyfer rhwydwaith bysus a threnau integredig yn parhau i gael eu datblygu ochr yn ochr â chyflwyno'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn y dyfodol.   

Rhagwelir y bydd yr elfennau rheilffyrdd metro yn ychwanegu dros filiwn o deithiau at y rhwydwaith rheilffyrdd, gan helpu i annog mwy o bobl i roi'r gorau i ddefnyddio ceir a defnyddio cludiant cyhoeddus nag unrhyw gynllun arall yng Nghymru.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) De-orllewin Cymru, "Rydym yn galw ar breswylwyr a busnesau ar draws De-orllewin Cymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a chyflwyno'u sylwadau erbyn y dyddiad cau ar 26 Awst.

"Mae'n bwysig oherwydd bydd y sylwadau rydym yn eu derbyn yn helpu i lywio cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft y byddwn hefyd yn ymgynghori arno pan fydd yn barod ar gyfer adborth.

"Gyda chymaint o adfywio economaidd yn mynd rhagddo yn Ne-orllewin Cymru mae arnom angen rhwydwaith trafnidiaeth sy'n datblygu ar yr un cyflymder â'r gwaith trawsnewid wrth hefyd ystyried ystyriaethau allweddol fel newid yn yr hinsawdd, fforddiadwyedd a hygyrchedd."

Meddai'r Cyng. Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd is-grŵp trafnidiaeth y CBC, "Rydym am dderbyn cymaint o adborth â phosib mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyfredol oherwydd mae arnom angen system drafnidiaeth sy'n cymhwyso datblygiadau presennol a'r dyfodol mewn ffordd sy'n cefnogi dewisiadau teithio cynaliadwy, gweithgarwch economaidd a chynhwysiant cymdeithasol ar draws y rhanbarth.

"Mae barn preswylwyr a busnesau ar draws De-orllewin Cymru yn hanfodol i'n helpu i ddatblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy'n diwallu anghenion pobl ac yn bodloni eu dyheadau."

Ewch i http://www.cjcsouthwest.wales/37214?lang=cy-gb am ragor o wybodaeth a'r cyfle i roi adborth.

E-bostiwch regional.transport@abertawe.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae copïau papur o'r ffurflen adborth a deunydd ymgynghoriad ar gael yn:

  • Sir Gâr: Hwb Gwasanaethau i Gwsmeriaid Rhydaman ar Heol y Cei, Hwb Gwasanaethau i Gwsmeriaid Caerfyrddin ar Rodfa St Catherine neu Hwb Gwasanaethau i Gwsmeriaid Llanelli ar Stryd Stepney.
  • Castell-nedd Port Talbot: Canolfan Ddinesig Castell-nedd Port Talbot neu Y Ceiau ar Ffordd Brunel ym Mharc Ynni Baglan.
  • Sir Benfro: Neuadd y Sir yn Hwlffordd.
  • Abertawe: Y Ganolfan Ddinesig ar Oystermouth Road.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Awst 2024