Trafodaethau manwl ynghylch hen uned Debenhams
Mae Cyngor Abertawe wrthi'n cynnal trafodaethau â nifer o fanwerthwyr blaenllaw ar y stryd fawr a gweithredwyr hamdden ynghylch symud i hen siop Debenhams yng nghanol y ddinas.
Mae'r trafodaethau manwl yn dilyn penderfyniad y Cyngor i brynu'r adeilad gyda chymorth Llywodraeth Cymru ar ôl i gwmni Debenhams fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r Cyngor hefyd yn dweud y bydd tenantiaid datblygiad swyddfa newydd ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Mae trafodaethau manwl yn mynd rhagddynt ar gyfer tua 80% o'r adeilad hwnnw.
Bydd dros 1,000 o swyddi ychwanegol yn dod i ganol y ddinas diolch i ddatblygiad Ffordd y Brenin ochr yn ochr â Neuadd Albert sydd wedi'i hailagor, ac adeilad Theatr y Palace a fydd yn ailagor y mis nesaf ac sy'n cael ei weithredu gan Tramshed Tech.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw adeilad Debenhams i ganol y ddinas ac i bobl Abertawe.
"Dyna pam penderfynodd y Cyngor brynu'r adeilad ac mae bellach wrthi'n cynnal trafodaethau manwl â nifer o fusnesau manwerthu a hamdden sy'n awyddus i lenwi'r uned.
"Ni allwn enwi unrhyw fusnesau ar hyn o bryd wrth i'r trafodaethau barhau, ond byddwn yn gwneud mwy o gyhoeddiadau cyn gynted ag y gallwn wneud hynny.
"Mae'r un peth yn wir am ddatblygiad 71/72 Ffordd y Brenin, lle mae diddordeb mawr gan nifer o gwmnïau sy'n awyddus i symud i'r lleoliad.
"Bydd cael mwy o fusnesau yng nghanol y ddinas yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn rhoi hwb i wariant mewn siopau, bariau a bwytai. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ac yn annog busnesau eraill i symud i ganol y ddinas, sy'n gyffrous iawn i Abertawe a'i heconomi."
Mae cynlluniau eraill ar y ffordd i ganol y ddinas cyn bo hir hefyd. Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailwampio Gerddi Sgwâr y Castell, adeiladu gwesty newydd ar dir y drws nesaf i'r LC a hwb sector cyhoeddus fel rhan o ddatblygiad mwy ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.
Mae gwaith adeiladu hefyd yn parhau ar safle hwb gwasanaethau cymunedol newydd Y Storfa yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen ac mae'r Cyngor mewn trafodaethau i ddenu rhagor o fanwerthwyr a busnesau bwyd a diod i ganol y ddinas fel rhan o gynllun 10 mlynedd newydd ar gyfer canol y ddinas.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Rydym yn ymrwymedig i wneud canol dinas Abertawe'n un o'r cyrchfannau gorau yn y DU i fyw, gweithio, mwyhau, astudio ac ymweld ag ef.
"Mae'r ymateb gan fuddsoddwyr wedi bod yn ardderchog, gyda chynlluniau fel cynllun adeilad byw dan arweiniad Hacer Developments, cynllun Ardal y Dywysoges dan arweiniad Kartay Investments, cynllun Neuadd Albert dan arweiniad LoftCo, a chynllun llety Market Lofts a man masnachol dan arweiniad Oxford Portland.
"Mae hyn yn golygu bod canol y ddinas yn destun trawsnewidiad digynsail wrth i ni geisio creu swyddi i bobl leol, cefnogi masnachwyr canol y ddinas a denu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.
"Llwyddom i ymgysylltu â nifer o fanwerthwyr mawr i sicrhau eu dyfodol parhaus yn y ddinas y llynedd. Rydym yn parhau i wneud hynny, i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw a denu manwerthwyr i Abertawe."