Gwaith ar y gweill i baratoi adeilad Debenhams ar gyfer meddianwyr newydd
Bwriedir gwneud gwaith yn hen adeilad Debenhams yng nghanol y ddinas fel y gellir ei ddefnyddio eto.


Mae Cyngor Abertawe yn ceisio mynegiannau o ddiddordeb gan gwmnïau sydd â diddordeb mewn gwneud cynnig i dynnu'r rhannau mewnol allan o'r adeilad.
Mae cyflwr yr adeilad yn golygu bod angen gwneud gwaith i dynnu'r rhannau mewnol allan cyn bod tenantiaid yn ei feddiannu yn y dyfodol. Caiff y gwaith hwn ei ariannu gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Mae trafodaethau hefyd yn parhau gyda nifer o fanwerthwyr a gweithredwyr hamdden arweiniol y stryd fawr ynghylch symud i'r adeilad. Mae'r rhain yn dilyn penderfyniad y Cyngor i brynu'r adeilad gyda chymorth Llywodraeth Cymru ar ôl i gwmni Debenhams fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Cyhoeddir y manylion cyn gynted ag y bydd y trafodaethau'n gorffen.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw adeilad Debenhams i ganol y ddinas ac i bobl leol.
"Dyna pam y mae defnyddio'r adeilad eto at ddibenion manwerthu'n rhan o raglen fuddsoddi gwerth dros £1b sy'n parhau yng nghanol y ddinas i ddenu mwy o ymwelwyr a swyddi yno a fydd yn helpu i annog mwy o siopau a busnesau i agor yn y dyfodol.
"Mae trafodaethau cadarnhaol yn dal i fynd rhagddynt â nifer o fanwerthwyr a busnesau hamdden ynglŷn â symud i hen uned Debenhams, ond mae angen gwneud gwaith y tu mewn i'r adeilad i sicrhau ei fod mewn cyflwr a fydd yn diwallu anghenion y busnesau hyn o ran dodrefnu mewnol a meddiannaeth.
"Mae hwn yn un o'r cynlluniau niferus a fydd naill ai'n gwneud cynnydd neu'n cael ei gwblhau yn 2025 wrth i'r gwaith o drawsnewid y ddinas barhau."
Mae cynlluniau sydd bron â chael eu gorffen yn cynnwys y datblygiad swyddfeydd newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Mae dros 75% o'r swyddfeydd yn y datblygiad bellach dan gynnig a byddwn yn dechrau cyhoeddi'r tenantiaid dros yr wythnosau nesaf.
Bydd hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen yn cael ei gwblhau eleni hefyd, bydd gwaith ailwampio'n dechrau yn Sgwâr y Castell a disgwylir i waith ddechrau hefyd i adeiladu hwb sector cyhoeddus newydd ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.