Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hyfforddiant am ddim i ddod yn achubwr bywyd

Bydd hyfforddiant am ddim fel y gall pobl ddefnyddio diffibrilwyr achub bywydau newydd a pherfformio adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn cael ei gynnig yng nghymunedau Abertawe am flwyddyn.

CPR Defib Training

CPR Defib Training

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth ag elusen Heartbeat Trust UK i osod 300 o ddiffibrilwyr sy'n hawdd eu cyrraedd ar draws ei holl wardiau, wrth i Abertawe geisio ennill teitl y ddinas gyntaf â digon o ddiffibrilwyr yn y DU.

Mae dros 150 ohonynt bellach ar gael a thros ychydig fisoedd yn unig maent wedi cael eu defnyddio dros 60 gwaith.

Mae'r partneriaid nawr yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau i'w defnyddio er mwyn cadw pobl yn fyw nes i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Cynhelir cyrsiau am ddim sy'n cymryd llai nag awr mewn cymunedau ar draws Abertawe yn ystod y flwyddyn nesaf, diolch i gefnogaeth gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru.

Byddant hefyd yn cael eu cynnig i fusnesau a sefydliadau gan gynnwys cynghorwyr a staff Cyngor Abertawe.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Gall y cyfarpar hwn olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth pan fydd rhywun yn dioddef o argyfwng meddygol fel ataliad y galon.

Ychwanegodd Arweinydd ar y Cyd y cyngor, Andrea Lewis, "Byddwn yn annog preswylwyr i dreulio amser yn cofrestru ar gyfer y cyrsiau am ddim hyn pan fyddant yn cael eu cynnig yn eu cymuned. Gall wir helpu i achub bywyd."

Os hoffech wybod ym mhle y mae eich diffibriliwr agosaf, ewch i https://www.defibfinder.uk/