Toglo gwelededd dewislen symudol

Trafodaethau'n parhau wrth i gontractwr fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

Mae Cyngor Abertawe yn cynnal trafodaethau cynnar â chontractwyr amgen yn dilyn newyddion fod y prif gontractwr gwreiddiol ar gyfer cynllun Bae Copr - Buckingham Group - wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Swansea Council Logo (landscape)

Swansea Council Logo (landscape)

Mae ardal cynllun Bae Copr yn ymestyn o'n agos at hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant i ardal y marina.

Mae'r rhan fwyaf o'r cynllun wedi'i gwblhau ac wedi bod ar agor ers gwanwyn y llynedd, felly mae'n hi'n fusnes fel arfer yn Arena Abertawe, maes parcio de Bae Copr, y parc arfordirol, The Green Room Bar and Kitchen a'r uned breswyl ar ochr ogleddol Oystermouth Road.

Mae gwaith anorffenedig yn cynnwys y maes parcio ar ochr ogleddol Oystermouth Road a pheth gwaith gorffen a datrys diffygion ar y safle.

Mae safle maes parcio'r ochr ogleddol wedi'i ddiogelu yn awr a'i drosglwyddo i'r gweinyddwyr.  Mae Cyngor Abertawe wedi yswirio'r safle, wedi gosod sgaffaldau a goleuadau argyfwng yno ac wedi rhoi trefniadau diogelwch ar waith yno.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe, "Mae staff Buckingham Group yn ein meddyliau ar yr adeg anodd hon ond rydym wedi gwneud popeth y gallwn i ddiogelu sefyllfa'r cyngor.

"Yn y tymor byr, mae hyn yn cynnwys cyflwyno goleuadau argyfwng, trefniadau diogelwch a mesurau eraill yn y maes parcio ar ochr canol y ddinas o Oystermouth Road.

"Wrth edrych i'r dyfodol o ran cwblhau'r cynllun, rydym eisoes yn siarad â'r gweinyddwyr ynghylch pryd y gellir trosglwyddo safle'r maes parcio i'r cyngor.

"Rydym hefyd ar gam cynnar trafodaethau â chontractwyr amgen wrth i ni geisio penodi un a sicrhau y gellir cwblhau gwaith gorffenedig cyn gynted â phosib.

"Mae'r trefniadau ariannol sydd gennym ar waith yn golygu nad ydym yn rhagweld y bydd sefyllfa Buckingham yn arwain at gost ychwanegol i'r cyngor.

"Nid yw'r sefyllfa'n effeithio ar Arena Abertawe o gwbl, felly mae hi'n fusnes fel arfer yno yn ogystal ag yn yr elfennau eraill o gynllun Bae Copr sydd wedi'u cwblhau."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Medi 2023