Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau ar gael i hybu cymunedau amrywiol

Mae grantiau bach bellach ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol ac elusennau sy'n datblygu lleoedd a digwyddiadau diogel i gymunedau amrywiol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Swansea Pride

Mae Tîm Cydlyniant Bae'r Gorllewin wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa grantiau bach.

Mae'r tîm yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau sydd wedi wynebu rhwystrau i gyllid yn y gorffennol ac y gall fod angen rhagor o gymorth yn eu datblygiad.

Gall grantiau fod hyd at £1,500, a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 28 Rhagfyr.

I wneud cais, ewch i www.abertawe.gov.uk/cronfacydlyniantcymunedol

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Mae'r grantiau hyn wedi'u hanelu at gefnogi grwpiau sy'n hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac yn helpu i nodi a lliniaru tensiynau cymunedol.

"Gallent fod yn darparu lleoedd neu ddigwyddiadau diogel ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gan gynnwys y gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr, newydd-ddyfodiaid, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, LHDTC+ neu fentrau i'r anabl.

"Gallai'r grantiau hefyd helpu i hyrwyddo neu greu digwyddiadau ar gyfer adegau arwyddocaol o'r flwyddyn fel Mis Hanes Pobl Dduon, Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, Mis Hanes LHDTC+ neu Ddiwrnod Coffáu'r Holocost fel enghreifftiau."

Os hoffech drafod cais cyn ei gyflwyno neu gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Lara.Rowlands@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Rhagfyr 2022