Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod Hawliau'r Gymraeg

Ar 7 Rhagfyr bydd sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Diwrnod Hawliau'r Gymraeg.

Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy'n gyfrifol am gydlynu'r diwrnod. Bydd degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg a rhannu profiadau o sut mae defnyddio gwasanaethau Cymraeg wedi effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl.

Safonau'r Gymraeg sydd wedi creu'r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu'r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: 'Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. Mae'r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu'n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith bob dydd.

Gyda ni, mae gennych chi hawl i:

  • Dogfennau yn Gymraeg 
  • Ffurflenni yn Gymraeg 
  • Gwefannau yn Gymraeg 
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
  • Arwyddion yn Gymraeg 
  • Gwneud cais am swydd yn Gymraeg 
  • Peiriannau hunanwasanaeth yn Gymraeg 
  • Defnyddio'r Gymraeg mewn derbynfa
  • Llythyrau ac e-bost yn Gymraeg
  • Defnyddio'r Gymraeg ar y ffôn

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl neu ewch i wefan comisiynyddygymraeg.cymru/.

Diwrnod Hawliau'r Gymraeg.

Close Dewis iaith