Cwmni technoleg yn cefnogi gwaith parhaus i adfywio Abertawe
Mae cwmni technoleg o Abertawe wedi cefnogi rhaglen adfywio barhaus y ddinas gwerth £1bn.


Mae TJ Amas, cyd-sylfaenydd DocFlite, yn dweud bod cynlluniau fel 71/71 Ffordd y Brenin a datblygiad Ardal y Dywysoges yn gadarnhaol i gymuned fusnes Abertawe.
Sefydlwyd DocFlite yn 2019 yn Uplands, ac mae'n helpu i symleiddio'r broses o reoli dogfennau.
Nod y cwmni yw ei gwneud hi'n hawdd i fusnesau greu, golygu a rhannu dogfennau ar-lein - o ddogfennaeth a chontractau staff mewnol i ddyfynbrisiau a thendrau ar gyfer gwaith.
Mae DocFlite yn awtomeiddio'r broses, gan alluogi olrhain ac atgoffa dogfennaeth.
Mae gan y cwmni bellach bron 90 o gleientiaid ledled y DU, y mae llawer ohonynt yn fusnesau yn y sector glanhau. Maent yn cynnwys nifer o fusnesau o Abertawe a Chymru fel Mrs Buckét, The Ready Maids ac FSG.
Meddai TJ, sy'n rhedeg DocFlite gyda'i wraig, Elaine, "Mae Abertawe'n ddinas wych i fod yn y sector technoleg. Mae Matt Warren yn Veeqo wedi dangos yr hyn sy'n bosib yma drwy dyfu o dîm bach i fusnes mawr.
"Mae Abertawe hefyd yn ddinas fach lle mae popeth yn agos. Mae hyn yn golygu y gall busnesau, gan gynnwys y rhai yn y sector technoleg, elwa o fod yn agos at brifysgolion, sy'n ddelfrydol os oes angen cefnogaeth, arbenigedd neu gydweithrediad arnoch.
"Mae'r gwaith parhaus i adfywio'r ddinas hefyd yn gadarnhaol wrth i Gyngor Abertawe, sefydliadau eraill a'r sector preifat fuddsoddi cymaint.
"Mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn edrych fel cyfleuster o'r radd flaenaf, ynghyd â'r Matrics Arloesi yn SA1. Mae gan y cyfleusterau hyn y potensial i fod yn gyfleoedd gwych i fusnesau ac yn gatalyddion go iawn ar gyfer twf, yn ogystal â chynlluniau fel datblygiad Ardal y Dywysoges, sy'n cyflwyno naws Llundain i Abertawe.
"Mae busnesau newydd yn hoffi'r amgylcheddau hyn ac mae hefyd yn wych bod Tramshed Tech wedi agor yn adeilad Theatr y Palace."
Daeth TJ, tad i ddau ac sy'n wreiddiol o Nigeria, i Abertawe dros 20 mlynedd yn ôl i astudio Safon Uwch yn Ysgol Gyfun yr Esgob Gore.
Dywedodd fod busnesau'n cael eu denu at fannau rhannu gwaith a swyddfeydd o hyd, er gwaethaf effaith y pandemig.
Meddai TJ, "Os ydych mewn lle ar gyfer rhannu mannau gwaith ac mae busnes newydd neu fusnes arall wrth eich ymyl, mae'n helpu i annog cystadleuaeth a thwf. Rydych chi'n cael hynny drwy weld beth mae eraill yn ei wneud o ddydd i ddydd."
Mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin a chynllun Matrics Arloesi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae cynllun swyddfeydd Ardal y Dywysoges yng nghanol dinas Abertawe'n cael ei arwain gan Kartay Investments.
Cyn bo hir, bydd DocFlite yn cynllunio rhwydwaith ar gyfer busnesau glanhau yn Abertawe, lle gall perchnogion busnes rannu syniadau a thrafod sut maen nhw'n mynd i'r afael â heriau.
Bydd hyn yn dilyn digwyddiad peilot sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 21 Mai.