Gwesty'r Dragon yn gwneud cais i ddod yn dirnod gwyrdd diweddaraf y ddinas
Gallai un o adeiladau mwyaf adnabyddus canol dinas Abertawe gael golwg newydd ffres - gyda thair wal werdd uchel.
Mae Gwesty'r Dragon a Chyngor Abertawe yn gobeithio cael caniatâd cynllunio i greu'r waliau byw ar dair ochr adeilad amlwg ar Gylch Ffordd y Brenin. Bydd y waliau'n cyrraedd hyd at y chweched llawr.
Mae dylunwyr sy'n gweithio ar y prosiect wedi cyflwyno cais cyn ymgeisio i gynllunwyr Abertawe.
Maen nhw'n dweud y bydd y waliau'n cynnwys planhigion fel pren bocs, blodau'r fagwyr, gwyddfid a wistaria. Byddai cynllun cynnal a chadw'n cael ei roi ar waith.
Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio gyda gwesty'r Dragon i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu am yr ychwanegiadau newydd a fyddai'n ategu llawer o fannau gwyrdd eraill sy'n cael eu cyflwyno o amgylch canol y ddinas.
Meddai Leigh Martin, Rheolwr Cyffredinol gwesty'r Dragon, "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd y cam mawr cyntaf hwn tuag at gyflwyno'r waliau byw hyn."
Mae gwesty'r Dragon hefyd yn bwriadu amnewid ffenestri ystafelloedd gwely sydd wedi'u dyddio fel rhan o gynllun gwella ehangach sy'n cael ei ariannu gan y busnes yn unig. Bydd hyn yn gwella golwg y gwesty ac yn hybu ei effeithlonrwydd ynni.
Sicrhaodd y cyngor, sy'n ysgogi adfywiad canol dinas gwerth £1bn, arian grant ar gyfer prosiect gwesty'r Dragon drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae Abertawe'n dod yn wyrddach ac mae hynny'n newyddion da i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Rydym yn adfer bioamrywiaeth ac yn addasu i newid yn yr hinsawdd.
"Mae ein hadfywiad parhaus, sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy'r pandemig, yn golygu ein bod yn arwain Cymru allan o'r pandemig.
"Mae canol ein dinas ar ei newydd wedd - ynghyd ag isadeiledd gwyrdd sy'n gwella'n barhaus - eisoes yn helpu i ddenu cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat."
Rhagor o wybodaeth: www.bit.ly/DHgreenWall
Llun: Sut gallai gwesty'r Dragon edrych gyda'i waliau byw.