Ffilm a dynnwyd gan ddrôn yn dangos cynnydd ym mhrosiect Ffordd y Brenin
Mae ffilm newydd a dynnwyd gan ddrôn yn dangos sut mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn edrych yn awr wrth i'r gwaith i adeiladu datblygiad swyddfeydd pwysig barhau i wneud cynnydd ar y safle.
Pan fydd yn weithredol, bydd y cynllun swyddfeydd a ddatblygwyd gan
Gyngor Abertawe'n darparu lle i 600 o weithwyr mewn sectorau fel y rhai technolegol a digidol.
Mae'r gwaith adeiladu, a arweinir gan Bouygues UK, prif gontractwr y cyngor ar gyfer y prosiect, bellach wedi cyrraedd lefel y stryd, ac mae'r gwaith i adeiladu dau o loriau'r islawr eisoes wedi'i orffen.
Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y cynllun yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.
Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd rhwydweithio a chydweithio hyblyg, bydd cyswllt newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin hefyd yn cael ei adeiladu.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei orffen yn gynnar yn 2024.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Er gwaethaf y pandemig, gwyddwn fod galw sylweddol o hyd am swyddfeydd hyblyg o safon o'r math hwn yn Abertawe - yn enwedig i sectorau sy'n cynnwys technolegol a digidol.
"Bydd y datblygiad hwn yn helpu i ateb y galw hwn a hefyd yn arwain at fwy o bobl yn gweithio yng nghanol y ddinas, a fydd yn cyfuno â chynlluniau adfywio eraill i ddenu rhagor o bobl a gwariant i ganol y ddinas.
"Bydd hyn o fudd i fusnesau sydd eisoes yng nghanol y ddinas a gallai hefyd helpu i arwain at ragor o fusnesau'n agor yno.
"Gan y bydd yr adeilad hwn yn dod yn fwy gweladwy yn y misoedd i ddod wrth i'r gwaith adeiladu barhau, mae trafodaethau'n cael eu cynnal bellach â gweithredwr posib ar gyfer yr adeilad ynghyd â thenantiaid."
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r ffilm newydd a dynnwyd gan ddrôn yn rhoi golwg o'r awyr o'r cynnydd gwych sy'n cael ei wneud ar y safle wrth i stori adfywio Abertawe gwerth £1 biliwn barhau.
"Mae'n un o nifer o brosiectau sydd naill ai wedi'u cwblhau, yn mynd rhagddynt neu yn yr arfaeth a fydd yn creu swyddi i bobl leol ac yn helpu i gadw busnesau lleol talentog yn ardal Abertawe drwy roi'r math o gyfleusterau y mae eu hangen arnynt i ffynnu."
Bydd nodweddion eraill y datblygiad newydd yn cynnwys teras ar y to a fydd yn wyrdd a balconïau'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.