Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau'n dod at ei gilydd i gefnogi hwb galw heibio newydd Abertawe

Crëwyd hwb galw heibio dros dro yng nghanol y ddinas gyda rhaglen weithgareddau lawn wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc a phreswylwyr.

Urban foundry pop-up hub in former Cranes store

Urban foundry pop-up hub in former Cranes store

Mae rhan o hen safle Crane's Music Store wedi cael ei ailbwrpasu i greu Popup Wales- ymdrech ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe acUrban Foundry ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Defnyddiwyd y safle'n gyntaf ar gyfer digwyddiadau hamddenol llwyddiannus yng nghanol y ddinas, lle trefnwyd gweithgareddau yn ystod gwyliau'r haf ar gyfer pobl ifanc. Y nod yw trefnu digwyddiadau i bawb.

Bydd yr hwb dros dro'n weithgaredd dros dro yn yr adeilad, yn amodol ar waith adfywio tymor hwy fel rhan o gynlluniau cyffredinol ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant a arweinir gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth ag Urban Splash.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Mae ein Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned yn defnyddio'r hwb i ymestyn menter Y Cwtsh Cydweithio ac mae yn y broses o adeiladu rhaglen weithgareddau lawn.

"Y nod yw mynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol a gwella ymgysylltu â'r gymuned, gan ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar a rhannu adnoddau."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Rhagfyr 2024