Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes newydd yn llwyddo diolch i gynllun grant y Cyngor

Mae hen siop drydanol ger un o barciau mwyaf poblogaidd Abertawe, y bu ei ffenestri dan goed ond sydd bellach wedi'i thrawsnewid, yn creu cyrn argraff ar bobl.

Duck & Dough café

Duck & Dough café

Mae'r siop, yn agos i Barc Brynmill, wedi'i droi'n gaffi sydd wedi dod yn lle croesawgar i bobl leol ymgasglu.

I sicrhau bod pobl yn cofio am y lle hwn, mae murlun enfawr o hwyaid yn hedfan ar ochr yr adeilad ar ei newydd wedd.

Mae'r adeilad sy'n eiddo i'r datblygwr eiddo o Abertawe, Peter Loosmore, yn cael ei weithredu fel caffi a hwb cymunedol Duck & Dough gan y perchennog Max Freitas. Mae llety preswyl newydd i fyny'r grisiau.

Cefnogwyd y trawsnewidiad drwy Grant Creu Lleoedd Prosiect Angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir Cyngor Abertawe a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae Mr Freitas, sy'n byw gerllaw, yn arbenigo mewn gwneud Pastéis de nata Portiwgeaidd a gweini coffi a diodydd eraill. Meddai, "Rwy'n falch iawn fy mod wedi achub ar y cyfle hwn i redeg busnes newydd sy'n rhoi pleser - a chroeso cynnes - i bobl leol.

Meddai Mr Loosmore, "Mae brwdfrydedd Max am basteiod a theisennau cartref a choffi yn cyd-fynd yn berffaith â'r hyn roeddem am ei gyflawni gyda'r lle hwn - busnes lleol sy'n gwasanaethu'r gymuned."

Gwraig Mr Loosmore sef Natalie feddyliodd am y syniad o gynnwys motifau hwyaid ar y tu allan, a ysbrydolwyd gan ymweliadau'r teulu â Pharc Brynmill.

Cwmni Fresh Creative o Abertawe ddaeth â'r cysyniad yn fyw.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae Duck & Dough yn dyst i effaith gadarnhaol y grantiau y gallwn eu cynnig. Nid cynlluniau canol y ddinas yn unig sy'n gallu elwa o hyn."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Hydref 2024