Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch yn hwyl yr ŵyl yn yr hwb cymunedol newydd

Mae gwahoddiad agored i Barti Nadolig cymunedol am ddim yn Nyfaty.

Dyfatty Community Hub

Ddydd Llun 19 Rhagfyr mae partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn trefnu'r digwyddiad a fydd yn cynnwys adloniant cerddorol gan gorau lleol, lluniaeth ysgafn, gweithgareddau crefft y Nadolig a chyngor a chefnogaeth.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a chanol dydd yn y rhes o hen siopau adfeiliedig yn Greenhill Parade sydd wedi'u hadfywio er mwyn i'r gymuned eu defnyddio, diolch i Gyngor Abertawe.

Bydd y digwyddiad Nadoligaidd yn gyfle arall i breswylwyr a grwpiau cymunedol gael cip ar y lle a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael yn awr.

Mae un o'r unedau ar fin agor fel caffi ac mae'r ddwy arall yn fannau y gellir eu llogi sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau.

Maent yn cael eu defnyddio gan y gwasanaethau cymorth ac maent hefyd wedi'u defnyddio er mwyn cynnal digwyddiadau cymunedol gan gynnwys Parti Calan Gaeaf, noson ffilm a diwrnod cŵn.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Rwy'n falch iawn o'r trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn yr adeiladau hyn - mae'r hyn a fu unwaith yn rhes o siopau gwag adfeiliedig bellach yn fan cymunedol anhygoel.

"Mae gwahoddiad agored i'r digwyddiad cymunedol hwn ac rydyn ni'n gobeithio gweld llawer o bobl yno i fwynhau'r perfformiadau cerddorol a'r cyfnod cyn y Nadolig."

Close Dewis iaith