Cynlluniau i ddod â bywyd newydd i ragor o adeiladau treftadaeth
Mae cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer dyfodol dau adeilad hanesyddol sy'n rhan o dreftadaeth ddiwydiannol wych Abertawe.


Mae Cyngor Abertawe eisiau achub a thrawsnewid yr adeileddau nad ydynt yn cael eu defnyddio fel rhan o'i waith i ddod â bywyd newydd i Gwm Tawe Isaf.
Mae cais cynllunio newydd gael ei gymeradwyo gan gynllunwyr ar gyfer tai injan Vivian a Musgrave y gwaith copr. Mae gan y ddau adeiledd statws rhestredig.
Yn y dyfodol, byddai'r tai injan yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys bwytai a chaffis, mannau arddangos a siopau.
Fel rhan o'r broses gynllunio, gwahoddwyd y cyhoedd i roi adborth ar y cynlluniau.
Mae'r cyfan yn rhan o gynlluniau adfywio Abertawe gwerth £1bn dan arweiniad y cyngor, sydd eisoes wedi cynnwys achub a thrawsnewid adeileddau treftadaeth fel Theatr y Palace, Albert Hall a phwerdy Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gwm Tawe Isaf wrth i ni ac eraill gynllunio i fuddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yn yr ardal honno."
Roedd gweithfeydd copr y canrifoedd diwethaf yn allweddol i dwf Abertawe, gan chwarae rhan hollbwysig fel prif ddiwydiant am dros 300 o flynyddoedd. Dirywiodd y diwydiant ond mae rhai o'r adeiladai a'r adeileddau'n parhau i sefyll hyd heddiw.
Mae Cyngor Abertawe'n gweithio ar gyfres o gynlluniau ar hyd coridor afon Tawe.
Mae'r cynlluniau'n cael eu hariannu gan £20m o gyllid o gynllun Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Nod prosiect Cwm Tawe Isaf y cyngor, a fydd yn canolbwyntio'n agos ar safle'r gwaith copr, yw arwain at fwy o gyfoeth a chysylltedd lleol.