Toglo gwelededd dewislen symudol

Bron 90 o brosiectau wedi'u cymeradwyo fel rhan o gronfa fuddsoddi fawr

Mae bron 90 o brosiectau bellach wedi cael eu cymeradwyo fel rhan o fuddsoddiad cyfredol mawr i helpu preswylwyr, cymunedau a busnesau Abertawe i adfer o effaith y pandemig.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae cynlluniau sydd wedi elwa o Gronfa Adferiad Economaidd Cyngor Abertawe'n cynnwys Hwb Ymwybyddiaeth Ynni sy'n rhoi cyngor am ddim i breswylwyr sydd am arbed arian ar eu biliau ynni.

Ers lansio'r hwb yn gynharach eleni, mae wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â 300 o bobl leol, gan helpu i gyflawni arbedion arfaethedig posib o dros £48,000 ar y cyd dros 12 mis.

Mae'r Hwb a gynhelir gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe, y mae ei gyfnod bellach wedi'i ymestyn tan y gwanwyn, wedi bod yn cynnal cyfres o sioeau teithiol cymunedol drwy gydol mis Medi, a bydd ambell un arall yn cael ei chynnal yn yr wythnos i ddod. Dylai unrhyw un â diddordeb mewn mynd i un ohonynt fynd i www.bit.ly/HubOutreach am ddyddiadau ac amserau.

Mae prosiectau eraill a ariennir gan y Gronfa Adferiad Economaidd yn cynnwys hybu gwasanaeth hawliau lles y cyngor i helpu i sicrhau bod cynifer o breswylwyr â phosib yn cael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.

Mae nifer o ardaloedd chwarae ar draws y ddinas hefyd wedi cael eu huwchraddio, mae cynnig teithio ar fysus am ddim wedi cael ei gyflwyno ac mae ffioedd caeau chwarae wedi cael eu dileu ar gyfer clybiau chwaraeon.

Erbyn diwedd 2023, bydd cyfanswm y buddsoddiad a gafwyd drwy'r Gronfa Adferiad Economaidd yn agos i £45m.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "P'un a yw wedi gwella mannau agored, cefnogi busnesau neu helpu preswylwyr i arbed arian, mae ein Cronfa Adferiad Economaidd yn cael ei defnyddio ar gyfer y meysydd hynny sydd ei hangen fwyaf, wrth i ni barhau i adfer o effaith y pandemig.

"Mae enghreifftiau'n cynnwys buddsoddi yn yr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni, sydd bellach yn cael ei redeg tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, i roi mwy fyth o gyngor am ddim i unrhyw un sy'n pryderu am yr argyfwng ynni cyfredol.

"Mae dros £20m bellach wedi'i glustnodi fel rhan o'r Gronfa Adferiad Economaidd gyffredinol hyd yn hyn, a byddwn yn cyhoeddi manylion hyd yn oed rhagor o gynlluniau a fydd o fudd i breswylwyr, teuluoedd, cymunedau a busnesau Abertawe.

"Mae'r cyngor yn parhau i fod yma i Abertawe."

Mae twristiaeth a busnesau eraill wedi elwa o grantiau adfer a chymorth ar gyfer mentrau fel creu mannau agored ar gyfer bwytai, caffis a bariau.

Mae cynllun hefyd yn cael ei gyflwyno i ddarparu lleoliadau gwaith a hyfforddiant yng Nghyngor Abertawe ar gyfer graddedigion, y di-waith a'r rheini sy'n anweithgar yn economaidd.

Close Dewis iaith