Toglo gwelededd dewislen symudol

Proses ddigidol sy'n eco-gyfeillgar yn arbed arian i'r cyngor ac amser i gyflenwyr

Mae newyddbeth digidol yn arbed miloedd o bunnoedd i Gyngor Abertawe a channoedd o oriau gwerthfawr i'w gyflenwyr.

Tech

Tech

Mae'r ffaith bod y cyngor bellach yn cael contractau busnes wedi'u cynhyrchu'n ddigidol yn hytrach na'u hargraffu hefyd yn helpu Abertawe i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Yn ei flwyddyn gyntaf, roedd defnydd y cyngor o'r feddalwedd e-lofnod newydd wedi arbed mwy na 12,000 o ddalennau o bapur wrth brosesu mwy na 240 o gontractau.

Roedd y cyflenwyr a elwodd o'r amser a arbedwyd gan y newid hwn yn amrywio o gontractwyr a adeiladodd Ysbyty Maes y Bae i gyflenwyr deunyddiau i atgyweirio tyllau yn y ffordd.

 Mae'r broses, sy'n cydymffurfio â rheolau cyfreithiol, wedi arbed mwy na 593kg o allyriadau CO2 diolch i newidiadau fel y ffaith nad oes angen i swyddogion deithio i swyddfa i ddrafftio a phrosesu gwaith papur.

Bwriedir ehangu'r defnydd o'r system - a gyflenwir gan gwmni arbenigol DocuSign - i feysydd eraill o'r cyngor.

Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, "Mae ein proses e-lofnod lwyddiannus yn arbed amser, arian a gwastraff - dyma'r union fath o newyddbeth a fydd yn helpu'r cyngor i fynd yn ddi-garbon net erbyn 2030 a'r ddinas yn sero net erbyn 2050." 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021