Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgyrch newydd yng nghanol y ddinas wedi dechrau'n llwyddiannus

Mae ymgyrch newydd i gefnogi canol dinas Abertawe wedi dechrau'n llwyddiannus.

Siop Ty Tawe

Siop Ty Tawe

Bwriad ymgyrch #JoioCanolEichDinas, a arweinir gan Gyngor Abertawe, yw annog mwy o bobl i ymweld â siopau, bwytai, caffis, tafarndai, lleoliadau diwylliannol, darparwyr a busnesau eraill canol y ddinas.

Mae masnachwyr, siopwyr a gweithwyr wrth wraidd yr ymgyrch, a bydd pyst, lluniau a fideos yn cael eu postio'n rheolaidd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook, Instagram a LinkedIn y cyngor er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn y mae canol y ddinas yn ei gynnig.

Mae fideos sy'n rhan o'r ymgyrch eisoes wedi cael eu gwylio oddeutu 25,000 o weithiau ers i'r ymgyrch lansio ychydig dros wythnos yn ôl.

Yn ogystal â fideo lansio'r ymgyrch sy'n cynnwys llawer o fusnesau canol y ddinas, mae llawer o fideos eraill ar gyfer yr ymgyrch hefyd wedi cynnwys ffilm o ddigwyddiadau fel y farchnad awyr agored a gynhaliwyd dros ychydig ddiwrnodau ar Stryd Rhydychen hyd at y penwythnos diwethaf.

Gan y bydd tîm Cymru'n chwarae yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd y dydd Sul hwn, mae fideo arall wedi dangos rhai o'r busnesau yng nghanol y ddinas lle gall pobl brynu crysau rygbi Cymru, llyfrau am rygbi yng Nghymru, baneri Cymru a pheli, teganau meddal, crysau-t a nwyddau eraill â thema Gymreig.

Rugby Heaven

Dengys ystadegau diweddar fod gan ganol y ddinas gannoedd o fusnesau, yn amrywio o fanwerthwyr a busnesau lletygarwch i leoliadau adloniant a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.

Mae'n golygu, ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y ddinas, ni fyddwch yn talu mwy na £5 am ddiwrnod llawn - a byddwch yn talu £1 yr awr yn unig am hyd at bum awr.

Mae ymgyrch Joio Canol eich Dinas yn cael ei chefnogi gan fasnachwyr canol y ddinas a BID (Rhanbarth Gwella Busnes) Abertawe.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae canol pob dinas a thref yn wynebu heriau tebyg i Abertawe, ond rydym yn gwneud popeth y gallwn ei wneud yma i sicrhau bod mwy o bobl yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn mwynhau yng nghanol y ddinas.

"Mae'n bwysig os ydym yn mynd i gefnogi busnesau gwych canol ein dinas ein bod yn creu amgylchedd fasnachu well ac yn helpu i ddenu'r ymwelwyr y mae angen i'r busnesau hyn eu cael i ffynnu ac i ehangu.

"Mae amrywiaeth enfawr o fusnesau yng nghanol y ddinas, gyda dros 200 o fanwerthwyr, mwy na 160 o fusnesau lletygarwch ac amrywiaeth eang o leoliadau cerddoriaeth fyw a diwylliannol, busnesau sy'n seiliedig ar weithgareddau a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.

"Mae'r busnesau hyn yn cyflogi pobl leol, yn cynnig profiad llawer mwy cymdeithasol na siopa ar-lein ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at economi ein dinas.

"Maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth, a dyma'r rheswm pam y mae ymgyrch #JoioCanolEichDinas mor bwysig.

"Mae ein fideos ar gyfer yr ymgyrch wedi gwneud dechrau da, ond mae llawer mwy i ddod wrth i ni geisio cynnwys cynifer o fusnesau ag sy'n bosib yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn y gall pobl ei wneud a'i fwynhau yng nghanol y ddinas.

"Mae gwaith adfywio'r ddinas sy'n werth £1 biliwn hefyd yn parhau'n gyflym, ac mae nifer y prosiectau sydd wedi'u cwblhau, sy'n parhau neu sydd wedi'u cynllunio'n arwain y ffordd tuag at ddyfodol disglair."

Mae'r prosiectau sydd wedi'u cwblhau, a arweinir gan y cyngor, yn cynnwys Arena Abertawe a phont newydd a pharc arfordirol Bae Copr. Buddsoddwyd miliynau o bunnoedd hefyd mewn gwella golwg ac ymdeimlad Wind Street a Ffordd y Brenin.

Mae gwaith adeiladu'n parhau yn y datblygiad swyddfeydd newydd ar hen safle clwb nos Oceana ac mae gwaith trawsnewid safle hanesyddol Theatr y Palace yn parhau.

Mae prosiectau eraill yn cynnwys hwb gwasanaethau cyhoeddus Y Storfa yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.

Bydd Gerddi Sgwâr y Castell hefyd yn cael eu hailwampio a chaiff safleoedd fel y Ganolfan Ddinesig a hen ardal Canolfan Siopa Dewi Sant eu hailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio arobryn, Urban Splash.

Enjoy Your City Centre campaign logo.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Medi 2023