Toglo gwelededd dewislen symudol

Tocynnau'r arena ar gael o hyd ar gyfer Elvis a Mabuse

Mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer Elvis Costello and the Imposters yn Arena Abertawe nos Lun (20 Mehefin).

Elvis Costello

Elvis Costello

Mae'r drysau'n agor am 7pm ar gyfer y gyngerdd, y diweddaraf o nifer o berfformiadau a digwyddiadau i'w cynnal yn yr atyniad ers iddo agor gyntaf yn ôl ym mis Mawrth.

Mae Costello, sy'n enwog am ganeuon sy'n cynnwys Accidents will Happen a Watching the Detectives, wedi ennill amryfal wobrau yn ystod ei yrfa, gan gynnwys gwobrau Grammy ym 1999 a 2000. Fe'i henwebwyd ddwywaith hefyd ar gyfer gwobr Brit am yr Artist Gwrywaidd Prydeinig Gorau.

Mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer seren Strictly Come Dancing, Oti Mabuse, a fydd yn ymddangos ar lwyfan Arena Abertawe nos Wener 24 Mehefin.

Mae'r arena a gynhelir gan Ambassador Theatre Group, yn un rhan o ardal Bae Copr gwerth £135m a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe.

Ewch i www.swansea-arena.co.uk i gael gwybodaeth am docynnau a manylion yr holl gyngherddau a digwyddiadau sydd ar ddod yno.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mehefin 2022