Emilia, 10 oed, yn ennill gwobr faethu genedlaethol
Mae merch 10 oed o Abertawe sydd wedi tyfu i fyny yn croesawu plant i'w chartref teuluol wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog.
Mae rhieni Emilia May Armstrong wedi bod yn maethu ers cyn iddi gael ei geni.
Dros y blynyddoedd mae Emilia wedi gweld dros 20 o blant yn mynd a dod, gan gyfarch pob un ohonynt â'r un brwdfrydedd a charedigrwydd a rhannu ei theganau a'i bywyd.
Oherwydd ei hagwedd anhunanol mae Emilia wedi ennill y Wobr Cyfraniad Rhagorol gan Feibion a Merched yng ngwobrau cenedlaethol Y Rhwydwaith Maethu.
Dechreuodd teulu Emilia faethu cyn iddi gael ei geni, ac maent wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Abertawe ers 2017.
Enwebwyd Emilia gan ei Mam, Teresa, ac meddai, "Mae hi'n croesawu pob plentyn newydd i'n cartref gyda'r un brwdfrydedd a charedigrwydd, er ei bod yn gwybod y bydd ei chalon yn torri pan fydd yn rhaid iddo adael. Rydyn ni mor falch ohoni a'i chyfraniad at faethu."
Meddai Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, "Hoffwn longyfarch Emilia ar ennill y wobr faethu fawreddog hon.
"Mae wedi bod mor gefnogol a charedig i'r holl blant sydd wedi byw gyda nhw. Nid yw llawer o blant yn gallu dweud eu bod wedi maethu drwy gydol eu bywydau, felly mae'n gyflawniad gwych ac yn rhywbeth y dylai hi fod yn falch iawn ohono."
Enillodd Maethu Cymru wobrau hefyd yn y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu.
Gwobrwywyd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer eu hymrwymiad a'u hymroddiad cenedlaethol. Er gwaethaf y ffaith eu bod nhw'n dîm newydd, cydnabuwyd y ffaith eu bod eisoes wedi cyfrannu'n sylweddol at wella bywydau pawb sy'n rhan o ofal maeth yng Nghymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i abertawe.maethucymru.llyw.cymru/ neu ffoniwch 0300 555 0111.