Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwasanaethau'r cyngor yn helpu miloedd i ddod o hyd i waith

Mae miloedd o bobl yn cael eu helpu i ddod o hyd i waith gan wasanaethau arbenigol Cyngor Abertawe.

Lauren Ellis

Lauren Ellis

Cafodd mwy na 3,500 o bobl gyngor, hyfforddiant neu gyfleoedd eraill drwy gyfres o raglenni cyflogadwyedd y cyngor y llynedd.

Cafodd mwy na 600 ohonyn nhw swyddi yn Abertawe a'r cyffiniau drwy raglenni Gweithffyrdd+, Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy, Kickstart, Cam Nesa, Abertawe'n Gweithio a chyllid grant dechrau busnes ar gyfer busnesau newydd.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor,Alyson Pugh, "Rydym yn gwella bywydau pobl - ac yn helpu busnesau lleol wrth i Abertawe arwain Cymru allan o'r pandemig.

"Mae ein swyddogion cyflogadwyedd arbenigol yn cynnal nifer o brosiectau llwyddiannus sy'n helpu pobl i baratoi ar gyfer gwaith ac mae'n dda eu gweld yn gweithio mor dda."

Mae Lauren Ellis ac Anna Costantini ymhlith y rheini sydd wedi cael cymorth.

Cafodd Lauren, 36 oed, o'r Hendy, lwyddiant gyda Gweithffyrdd+. Cwblhaodd hyfforddiant gyda nhw ac yna daeth o hyd i waith gyda chwmni adeiladu yn ne Cymru sef R&M Williams. Mae hi bellach yn gweithio ar drawsnewidiad adeilad hanesyddol Theatr y Palace yng nghanol y ddinas.

Cafodd Anna, 37 oed, o Flaen-y-maes, lwyddiant gyda Chymunedau am Waith a Mwy. Cwblhaodd hyfforddiant gyda nhw ac yna derbyniodd gymorth i ddod o hyd i waith gyda'r cwmni diogelwch o Abertawe, PSM.

Mae Gweithffyrdd+ yn brosiect sy'n helpu pobl dros 25 oed yn Abertawe sy'n ddi-waith yn y tymor hir neu'r tymor byr. Cefnogwyd Gweithffyrdd+ gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae Cymunedau am Waith yn helpu'r rheini sy'n 16 oed ac yn hŷn sy'n byw yn Abertawe, nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth. Mae'n un o raglenni Lywodraeth Cymru a gefnogir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cefnogi unrhyw un 16+ oed sydd wedi bod yn ddi-waith am lai na blwyddyn. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.

Mae Kickstart yn helpu'r rheini sy'n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir. Mae'n rhan o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer swyddi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Roedd Cam Nesa yn brosiect a ariannwyd gan Ewrop i gefnogi pobl Abertawe rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant ac sy'n byw y tu allan i ardal Cymunedau'n Gyntaf.

Gall pobl sydd wedi derbyn cymorth a chefnogaeth gan fenter cyflogadwyedd Cyngor Abertawe, lle bo'n briodol, gael mynediad at gyfleoedd swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau amrywiol drwy gynllun Y Tu Hwnt i Frics a Morter y cyngor. 

Mae nifer o brosiectau cyflogadwyedd y cyngor yn rhan o gynllun Abertawe'n Gweithio. Mae'r cynllun hwn yn gweithio gyda phartneriaid i helpu dinasyddion i gael mynediad at hyfforddiant a chymorth perthnasol.

Mae cyllid grant dechrau busnes ar gael i unigolion ar brosiectau cyflogadwyedd Cyngor Abertawe sy'n sefydlu busnesau newydd. Rhagor o wybodaeth: GrantSefydlu@abertawe.gov.uk

Am ragor o fanylion ynghylch sut gall y cyngor eich paratoi i ddod o hyd i swydd, ewch i www.abertawe.gov.uk/gweithioabertawe neu www.workways.wales/cy/

Llun:Cyfranogwr Gweithffyrdd, Lauren Ellis, gyda rheolwr prosiect R&M Williams, Robert Theophile.

 

 

Close Dewis iaith