Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau ynni newydd yn cael eu datgelu ar gyfer De-orllewin Cymru

Mae cynlluniau ynni lleol newydd uchelgeisiol ar gyfer Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro wedi'u datgelu.

Solar Farm CGI

Solar Farm CGI

Mae'r cynlluniau'n nodi sut y bydd pob un o'r pedair ardal awdurdod lleol yn gweithio tuag at ddyfodol ynni glanach, gwyrddach a mwy gwydn, gan nodi cyfleoedd lleol i leihau allyriadau carbon, cynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws cartrefi, busnesau a thrafnidiaeth.

Mae'r cynlluniau a ddatgelwyd gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan mewn digwyddiad yn Cross Hands, yn adeiladu ar gymeradwyo Gweledigaeth Strategol Ynni Rhanbarthol gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer De-orllewin Cymru.

Mae'r weledigaeth honno'n darparu'r fframwaith hollgynhwysol ar gyfer cydweithredu rhanbarthol ar ynni a gweithredu ar yr hinsawdd, wrth i gynlluniau lleol drosi'r uchelgeisiau a rennir hynny'n brosiectau ymarferol, seiliedig ar le ar gyfer pob sir.

Gyda'i gilydd, bydd y weledigaeth ranbarthol a'r cynlluniau lleol yn helpu De-orllewin Cymru i gyrraedd ei darged sero net erbyn 2050, wrth gefnogi swyddi gwyrdd newydd, arloesedd a buddsoddiad yn economi carbon isel gynyddol y rhanbarth.

Meddai'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, "Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn, sy'n adlewyrchu ein huchelgais y gall Cymru gyflenwi 100% o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

"Mae gan ynni adnewyddadwy'r potensial i ddatgloi £47 biliwn o fuddsoddiad a chreu 15,000 o swyddi ynni glân yng Nghymru. Rydw i am sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn dod i Gymru ac yn cefnogi swyddi o ansawdd uchel ac yn diwallu anghenion lleol ar draws y wlad fel y gall pobl o bob cymuned weld manteision go iawn newid i ynni gwyrdd."

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae'r cynlluniau ynni lleol newydd hyn yn nodi cam mawr ymlaen wrth droi ein gweledigaeth ynni rhanbarthol yn weithredu ar lawr gwlad.

"Mae pob cynllun wedi'i deilwra i gryfderau ac anghenion ein hardaloedd lleol, o fanteisio ar botensial ynni adnewyddadwy i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd.

"Mae'r ymagwedd gydlynol hon yn golygu y gall De-orllewin Cymru gyfan symud yn gyflymach tuag at sero net wrth sicrhau bod y manteision economaidd ac amgylcheddol yn cael eu rhannu ar draws ein holl gymunedau."

Meddai'r Cyng. Jon Harvey, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Economi ac Ynni, "Mae'r cynlluniau ynni lleol yn darparu map ffordd clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer sut y gallwn drawsnewid ein systemau ynni, creu cyfleoedd newydd ar gyfer diwydiant gwyrdd, a chryfhau diogelwch ynni i bobl leol.

"Drwy weithio gyda'n gilydd fel rhanbarth, gallwn arwain y ffordd o ran sicrhau bod Cymru'n newid i economi sero net - gan ddenu buddsoddiad, cefnogi swyddi medrus a mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng hinsawdd."

Mae'r Weledigaeth Strategol Ynni Rhanbarthol yn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a grëwyd gan newid yn yr hinsawdd, nodau lleihau carbon a'r chwyldro diwydiannol gwyrdd.

Mae'n tynnu sylw at yr angen am weithredu cydlynus ar draws chwe maes allweddol: effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu adnewyddadwy, dosbarthu gwres, datgarboneiddio trafnidiaeth, cynhyrchu ynni lleol a pherchnogaeth ohono, a systemau ynni clyfar.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a sefydlwyd ym mis Ionawr 2022, yn cynnwys arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr awdurdodau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Sir Benfro.

Bydd yn cyflwyno gwelliannau mewn meysydd megis datblygu economaidd, ynni, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir ledled de-orllewin Cymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Hydref 2025