Toglo gwelededd dewislen symudol

Aelwydydd yn arbed miloedd diolch i'r hwb ymwybyddiaeth ynni

Mae cannoedd o bobl gyda'i gilydd wedi arbed miloedd o bunnoedd diolch i gynllun a ariennir gan y cyngor i helpu i dorri biliau ynni cartref.

Gas Meter

Gas Meter

Mae awgrymiadau gan @SwitchedOnSwansea, a gyflwynir gyda'n ffrindiau yn @environmentcentre, yn cynnwys y canlynol:

  • Gallai troi eich gwres canolog i lawr o 22ᵒC i 21ᵒC os ydych yn byw mewn tŷ pâr â thair ystafell wely nodweddiadol a wresogir â nwy arbed tua £105 y flwyddyn
  • Drwy beidio â gadael offer yn y modd segur a'u diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, gallech arbed tua £55 y flwyddyn os ydych ar dariff trydan nodweddiadol
  • Gallai newid yr holl fylbiau yn eich cartref i rai LED arbed tua £55 y flwyddyn i'r rheini sydd ar dariff trydan nodweddiadol

Ffynhonnell: @EnergySavingTrust

Rhagor: https://www.environmentcentre.org.uk/switched-on