Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Peidiwch â cholli'r cyfle i dderbyn arian y gall fod gennych hawl iddo

Anogir teuluoedd a phreswylwyr yn Abertawe i sicrhau eu bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

swansea from the air1

swansea from the air1

Amcangyfrifir bod miloedd o bobl yng Nghymru'n colli allan ar daliadau posib a allai helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Mae'r rheini sy'n colli allan o bosib yn cynnwys pobl sy'n gweithio nad yw eu cyflog yn gallu talu am eu costau byw a llety, yn ogystal â phobl hŷn nad ydynt yn ymwybodol y gallant hawlio budd-daliadau prawf modd yn ogystal â'u pensiwn y wladwriaeth.

Mae pobl eraill y gallai fod yn colli allan yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd tymor hir sy'n effeithio ar eu gallu i ymdopi'n gorfforol neu'n feddyliol â thasgau dyddiol neu fynd allan o'r tŷ.

Gofynnir i bobl ffonio Advicelink Cymru ar eu llinell gymorth am ddim ar 0808 250 5700 i wirio, neu gallant fynd i llyw.cymru/hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi

Mae Cyngor Abertawe hefyd yn annog rhieni sy'n gweithio i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn arian a all helpu i dalu ffïoedd i dalu am ofal plant, darpariaeth cyn-ysgol, meithrinfeydd, nanis, cynlluniau chwarae, clybiau cyn ac ar ôl ysgol a chlybiau yn ystod y gwyliau.

Mae cynllun gofal plant di-dreth Llywodraeth y DU yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio, gan gynnwys pobl hunangyflogedig, gyda chostau gofal plant.

Os yw rhiant neu ofalwr sy'n gweithio'n ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac o dan £100,000 y flwyddyn, gallant fod yn gymwys i dderbyn £500 bob 3 mis, fesul plentyn, tuag at eu costau gofal plant.

Os oes gan eu plentyn anabledd, gallant fod yn gymwys i dderbyn £1,000 bob tri mis a hyd at £4,000 y flwyddyn fesul plentyn.

I wirio'ch cymhwysedd ac i ddarganfod sut i gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i www.childcarechoices.gov.uk/cymraeg/

Gallwch hefyd fynd i www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw i gael gwybodaeth am yr holl help, cyngor, arian a chefnogaeth sydd ar gael o ran costau byw.

 

Close Dewis iaith