Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pleidlais gyhoeddus yn helpu i ddewis dyluniad newydd ar gyfer mynedfeydd Marchnad Abertawe

Mae siopwyr wedi helpu i ddewis dyluniad trawiadol newydd ar gyfer mynedfeydd allanol Marchnad Abertawe.

New Market Entrance CGI

New Market Entrance CGI

Gofynnwyd i fasnachwyr y farchnad a rhanddeiliaid allweddol eraill am eu barn wrth i Gyngor Abertawe gynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd barn pawb a oedd yno wedi helpu i gwblhau'r cynlluniau ar gyfer mynedfeydd Stryd Rhydychen, Union Street a Whitewalls, a fydd yn cael eu hailwampio a'u moderneiddio eleni.

Mae'r dyluniad lliw copr yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe; mae ei siâp hanner cylch yn cyfeirio at logo'r farchnad a'i tho cromennog enfawr.

Roedd y rheini a oedd wedi pleidleisio dros y dyluniad wedi'i ddisgrifio fel dyluniad croesawgar, mawreddog, trawiadol, slic, cain, glân a modern.

Maent yn hoffi bod y dyluniad yn cynnwys y geiriau Abertawe a Swansea - gan ddangos yn glir bod y farchnad yn chwarae rôl allweddol yn y gymuned.

Meddai Aelod y Cabinet a Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor David Hopkins "Roedd yn amlwg taw'r dyluniad buddugol oedd y ffefryn yn ystod yr ymgynghoriad.

"Bydd yn helpu i sicrhau dyfodol disglair ar gyfer lleoliad gwych."

Drwy weithio gyda masnachwyr a'r ymgynghorwyr o Gymru, Tangent Partnership gwnaeth y cyngor greu tri dewis cysyniad ar gyfer dyluniad y mynedfeydd ar eu newydd wedd yn Whitewalls, Stryd Rhydychen ac Union Street.

Bydd y cynllun dethol - gan gynnwys nifer o nodweddion safonol eraill fel goleuadau, lloriau, arwyddion a chyfarpar diogelwch newydd - bellach yn mynd drwy'r broses gynllunio ffurfiol.

Mae syniadau eraill gan y cyhoedd am y farchnad a'i mynedfeydd yn cael eu hystyried.

Mae gwaith cychwynnol ar y mynedfeydd newydd wedi cynnwys cael gwared ar y canopïau blaenorol a chynnal a chadw'r mastiau.

Bwriedir i'r gwaith sy'n weddill ar y mynedfeydd newydd gael ei wneud eleni. Mae'r cyngor yn bwriadu i'r gwaith achosi cyn lleied o darfu â phosib.

Bydd diweddariadau am y prosiect yn cael eu rhannu ar wefan y farchnad.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mai 2025