Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolygwyr yn canmol gwasanaethau addysg y cyngor

Mae miloedd o ddisgyblion a'u hathrawon yn ogystal ag ysgolion y ddinas yn elwa o ymrwymiad y cyngor i flaenoriaethu a buddsoddi mewn addysg yn Abertawe, yn ôl arolygwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Estyn report generic image from Canva

Estyn report generic image from Canva

Mae lles disgyblion yn flaenoriaeth glir i Gyngor Abertawe sydd ag ymrwymiad i ddarparu'r addysg orau i bob plentyn, yn ôl adroddiad newydd.

Mae perfformiad disgyblion yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae gwaith pwysig yn cael ei wneud i gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod yn llwyddo ac yn aros yn yr ysgol.

Arolygodd swyddogion o Estyn wasanaethau addysg Cyngor Abertawe ym mis Mehefin ac maen nhw wedi cyhoeddi eu canfyddiadau'r wythnos hon.

Yn ôl yr adroddiad: "Mae gan gyfarwyddiaeth addysg Abertawe ddyhead uchelgeisiol ar gyfer ei holl blant a phobl ifanc.

"Ar y cyd â'r prif weithredwr, yr arweinydd, yr aelod cabinet ar gyfer addysg ac aelodau etholedig, mae swyddogion addysg wedi ymrwymo'n glir i ddarparu'r addysg orau posibl ar gyfer pob plentyn. Mae swyddogion yn y gyfarwyddiaeth addysg yn gweithio ar y cyd ac yn gynhyrchiol gyda gwasanaethau eraill yr awdurdod lleol a sefydliadau allanol ar sawl lefel.

"Mae'r cyfarwyddwr a'i swyddogion yn cynnal perthnasoedd adeiladol ac agored gyda phenaethiaid a rhanddeiliaid. Maent yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant cryf ac effeithiol o hunanwella ymhlith ysgolion Abertawe. Ceir cydweithio effeithiol ar sawl lefel, sy'n golygu bod gan ysgolion hanes cryf iawn o wella dros amser.

"Y deilliannau arolygu ar gyfer ysgolion Abertawe oedd y cryfaf yng Nghymru yn y tair blynedd yn arwain at bandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020. At ei gilydd, roedd perfformiad disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 rhwng 2017 a 2019 uwchlaw neu ymhell uwchlaw safonau mewn ysgolion tebyg. Roedd perfformiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim uwchlaw cyfartaleddau cenedlaethol yn gyson yn y tair blynedd cyn y pandemig. Mae'r awdurdod lleol yn rhoi blaenoriaeth allweddol i lesiant a lles dysgwyr. Mae uwch swyddogion ac ysgolion prif ffrwd wedi ymrwymo'n gryf i gynorthwyo disgyblion bregus a'r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio.

"Ceir amrywiaeth eang o gymorth ac ymyraethau ar gyfer disgyblion ag anawsterau ymddygiadol ac emosiynol i sicrhau bod dysgwyr yn llwyddo ac yn aros mewn addysg. Mae hon yn nodwedd nodedig.

"Yn yr arolygiadau ysgolion rhwng Medi 2017 a Mawrth 2020, roedd proffil Abertawe ar gyfer lles ac agweddau at ddysgu yn eithriadol o gryf. Yn ychwanegol, mae nifer y disgyblion sy'n symud ymlaen i Flwyddyn 11 ac yn aros yn eu hysgol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd yn gyson uwch na chyfartaleddau cenedlaethol. Mae hyn yn gryfder arbennig.

"Mae gan y gyfarwyddiaeth addysg ddiwylliant cryf o hunanfyfyrio a hunan werthuso. Mae arweinwyr yn cynnal adolygiadau rheolaidd a thryloyw o agweddau ar waith y gwasanaeth, ac yn llunio cynlluniau gwella cyflym a manwl gywir.

"Mae prosesau monitro a sicrhau ansawdd sefydledig ar waith. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r awdurdod lleol wedi cynyddu ei gynnig addysg cyfrwng Cymraeg yn raddol. Ceir cynlluniau dyheadol o fewn Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 yr awdurdod lleol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddatblygu'r agwedd hon ymhellach, ond mae angen sicrhau cyfleoedd cyfartal i'r holl blant allu cael addysg cyfrwng Cymraeg ledled y sir."

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Rwy'n falch iawn o ganfyddiadau adroddiad yr wythnos hon.

"Dyma daith o welliant parhaus rydym wedi bod arni ers dros ddegawd. Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn addysg ac ysgolion ac rydym yn gweld canlyniadau rhagorol o ganlyniad.

"Yn Abertawe rydym bob amser yn ymdrechu i wneud yn well a byddwn yn gweithio i adeiladu ymhellach ar yr hyn a gyflawnwyd.

"Ond heddiw hoffwn ddiolch i'n swyddogion, ein penaethiaid, ein hathrawon a holl staff yr ysgol am eu hymdrechion parhaus. Yn bwysicaf oll, hoffwn ganmol ein disgyblion a'u teuluoedd am eu cefnogaeth parhaus."

Close Dewis iaith