Lleoliad hanesyddol Neuadd Albert wedi ailagor yn swyddogol
Ailagorwyd lleoliad hanesyddol Neuadd Albert yn Abertawe'n swyddogol ddydd Gwener 27 Medi.
Dan arweiniad LoftCo, cwmni o Gymru, mae'r datblygiad yn cynnwys ardal fwyd, gweithfannau a rennir, ystafelloedd cyfarfod, llety ac ardal chwarae i blant.
Mae'r gwaith o adfer a thrawsnewid yr adeilad 160 mlwydd oed wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy'r fenter Trawsnewid Trefi ac mae'n un rhan o'r rhaglen adfywio gwerth £1bn sy'n cael ei chyflwyno ledled Abertawe.
Mae cynlluniau dan arweiniad Cyngor Abertawe'n cynnwys gwaith i adfer a thrawsnewid adeilad hanesyddol Theatr y Palas ar y Stryd Fawr, a fydd yn ailagor cyn bo hir.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n wych agor Neuadd Albert yn swyddogol unwaith eto - a gweld y gwaith trawsnewid trawiadol gan LoftCo.
"Dylai pawb sydd â diddordeb yn Abertawe gymryd cip a gweld bod rheswm arall i fwynhau canol y ddinas sy'n gwella'n gyflym.
"Mae'r defnydd newydd hwn o adeilad treftadaeth poblogaidd iawn eisoes wedi cael ei ganmol gan y cyhoedd lleol sy'n mwynhau'r bwyd a'r diodydd a gynigir. Bydd ymwelwyr hefyd yn elwa o'i lety o safon gwesty a bydd busnesau lleol yn mwynhau gweithio yma.
"Rwy'n falch bod y cyngor yn gallu helpu i roi'r prosiect hwn ar waith ac achub rhan hanfodol arall o dreftadaeth Abertawe ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
"Bydd adeilad cyfagos Theatr y Palas yn cael ei ddefnyddio eto hefyd cyn bo hir - ac mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer adeiladau ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa a fydd yn helpu i wneud yr ardal honno'n gyrchfan gwych i ymwelwyr.
"Mae Neuadd Albert a llawer o brosiectau eraill yn dangos bod y rhaglen adfywio gwerth £1bn dan arweiniad y cyngor yn datblygu. Mae llawer mwy i ddod!"
Dilynwch y ddolen yn y blwch sylwadau isod i gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Albert.