Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith Copr yr Hafod-Morfa: Cymerwch gip y tu mewn i dai injan hanesyddol

Mae gwirfoddolwyr sy'n hyrwyddo treftadaeth hen ganolfan diwydiant yn Abertawe'n cynllunio penwythnos mawr ar gyfer y cyhoedd.

Engine Houses, Copperworks

Engine Houses, Copperworks

Bydd Cyfeillion Gwaith Copr yr Hafod Morfa'n cymryd rhan mewn cynllun Drysau Agored Cadw ar 23 a 24 Medi trwy gynnal teithiau tywys am ddim i'r cyhoedd.

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi'r digwyddiad trwy agor drysau dau dŷ injan y mae wedi helpu i'w hachub yn ddiweddar.

Meddai Cadeirydd y Cyfeillion, Tom Henderson, "Mae'r penwythnos yn gyfle unigryw i weld dau o oroeswyr prin hen ddiwydiant copr llwyddiannus Abertawe."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Ein nod yw defnyddio'r tai injan eto yn y dyfodol - rydym wedi sicrhau cyllid i helpu i ddatblygu atyniad treftadaeth a chaffi i dwristiaid."

Mae'r cyngor yn arwain ei waith adfywio gyda help gan bartneriaid a chyllid oddi wrth ffynonellau megis rhaglen Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Bydd cynllun Drysau Agored Cadw ar 23 a 24 Medi yn y gwaith copr yn cynnwys teithiau tywys un awr o gwmpas cwrt y tŷ injan a mynediad at dai injan Musgrave a Vivian.

Fel arfer, yr unig ffordd o gael mynediad at dŷ Musgrave yw trwy ddringo ysgol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar gyfer y digwyddiad hwn, mae'r grŵp Cyfeillion wedi gweithio gyda Distyllfa Penderyn a Rowecord Total Access i osod grisiau sgaffaldio, a fydd yn galluogi pobl i gael mynediad ato.

Rhaid cadw lle ar gyfer teithiau tywys - www.bit.ly/CODhafod23.

Oherwydd natur ddiwydiannol y safle yn y gorffennol a'r ffaith bod y gwaith adfywio yn y camau cynnar, ni fydd pawb yn gallu cael mynediad ato. Am gyngor, e-bostiwch hafodmorfacopper@gmail.com

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2023