Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n barod i groesawu Parc Cefnogwyr Cwpan y Byd

Mae Cwpan y Byd Pêl-droed yn agosáu - a bydd Parc y Cefnogwyr Abertawe yn cyfarch cefnogwyr ym Mharc Singleton.

Action from Fan Parks UK

Action from Fan Parks UK

O 20 Tachwedd, disgwylir iddo ddangos gemau mewn pabell fawr wedi'i thwymo, gyda 2,500 o seddi.

Mae'r atyniad - a gynhelir gan Fan Parks UK Group - yn bwriadu darparu cyfleusterau o safon uchel mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel a fydd yn berffaith ar gyfer mwynhau amser rhydd gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

Dywed y trefnwyr y gall ymwelwyr ddisgwyl cyfuniad arbennig o gyflenwyr bwyd lleol, diodydd o far llawn stoc, adloniant, croesawyr, enwogion pêl-droed a mwy.

Meddai cyfarwyddwr Fan Parks, Jostein Ansnes, "Ein nod yw creu digwyddiad hwyliog gyda chyfleusterau rhagorol. Pêl-droed fydd y ffocws, a bydd croeso i bawb.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor Robert Francis-Davies,"Rydym yn falch y bydd gan Abertawe ei Barc Cefnogwyr ei hun - yr unig un o'i fath yng Nghymru. Bydd yn ategu masnach lletygarwch benigamp bresennol y ddinas.

"O'n trafodaethau â Fan Parks, gwyddwn eu bod am weithio gyda'n cymunedau; byddant yn cyflogi pobl leol ac yn defnyddio cyflenwyr a gwasanaethau lleol lle bynnag y bo modd.

"Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu partneriaeth barhaus â nhw."

Rhagor: www.bit.ly/FPswansea22

Close Dewis iaith