Pob disgybl ysgol gynradd yn Abertawe i gael cynnig prydau ysgol am ddim
Bydd yr holl ddisgyblion cynradd yn Abertawe'n cael cynnig prydau ysgol am ddim pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf yr wythnos nesaf.
Mae'n golygu y bydd Abertawe wedi cyrraedd y targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru i'r holl blant oedran cynradd dderbyn y cynnig yn 2024.
Mae'n golygu y bydd mwy na 18,000 o ddisgyblion yn gallu bwyta am ddim yn ystod y tymor yn Abertawe, gan helpu pob teulu gyda chostau byw.
https://www.abertawe.gov.uk/grantGwisgYsgol
Addaswyd diwethaf ar 29 Awst 2024