Prydau ysgol am ddim i'r 2,500 o ddisgyblion Blwyddyn Un yn Abertawe
Bydd y 2,500 o ddisgyblion Blwyddyn Un sy'n mynychu ysgolion yn Abertawe yn cael cynnig prydau ysgol am ddim pan fydd yr ysgol yn ailddechrau ar ôl hanner tymor mis Chwefror.
Mae disgyblion yn y dosbarth Derbyn wedi cael cynnig cinio am ddim ers mis Medi 2022 ac mae'r ffaith fod y cynnig yn cael ei ehangu i Flwyddyn Un yn golygu y bydd mwy na 4,800 o blant yn Abertawe bellach yn gymwys.
Caiff disgyblion Blwyddyn Un eu cofrestru'n awtomatig felly nid oes angen i rieni na gofalwyr wneud cais am y prydau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn derbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024, ac mae Cyngor Abertawe'n gweithio i gyrraedd y targed hwn.
Mae dros £4.3m yn cael ei fuddsoddi mewn gwella ceginau ysgol ac ailwampio cyfarpar yn Abertawe fel y gellir cyflwyno'r cynllun mewn pryd.
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Dysgu, "Yn ystod yr argyfwng costau byw hwn mae addewid Pryd Ysgol Am Ddim Llywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed felly rwy'n falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa yn Abertawe i ehangu'r cynnig i ddisgyblion Blwyddyn Un.
"Byddwn yn rhoi'r diweddaraf i rieni a gofalwyr cyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i gynnwys rhagor o grwpiau blwyddyn yn y cynllun, unwaith y bydd yr isadeiledd angenrheidiol ar waith."