Toglo gwelededd dewislen symudol

Elusen sy'n cefnogi teuluoedd yn annog grwpiau i wneud cais am gyllid

Mae cyllid gan Gyngor Abertawe wedi helpu elusen sy'n darparu gweithgareddau am ddim a phrydau i blant a phobl ifanc i ehangu ei chefnogaeth.

Cwtch Mawr Toy Delivery with logo

Cwtch Mawr Toy Delivery with logo

Mae Faith in Families yn un o ddwsinau o sefydliadau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grantiau gan y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae rownd newydd o gyllid bellach ar gael fel rhan o becyn cymorth mwyaf erioed y Cyngor i helpu pobl ifanc, teuluoedd a phreswylwyr hŷn fel rhan o'r ymgyrch 'Yma i Chi y Gaeaf hwn'.

Mae bron £650,000 ar gael i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gyda chostau'r Nadolig, gwyliau'r ysgol neu'r rhai sy'n teimlo'n unig neu'n ynysig.

Mae ceisiadau bellach ar agor i elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau wneud cais am grantiau os ydynt yn rhedeg unrhyw un o'r cynlluniau canlynol:

  • Bwyd am ddim i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r Nadolig a gwyliau hanner tymor mis Chwefror.
  • Lleoedd Llesol Abertawe sy'n darparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl ddod i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Cymorth Bwyd Uniongyrchol drwy fanciau bwyd a mentrau cymunedol ac elusennol eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.
  • Gweithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Gweithgareddau i bobl hŷn yn ystod y gaeaf.

Meddai Cherrie Bija, Prif Weithredwr Faith in Families, "Mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i helpu unigolion a theuluoedd yn ystod y gaeaf.

"Mae Faith in Families yn ddiolchgar i Gyngor Abertawe am y cyllid rydym wedi'i dderbyn yn y gorffennol i ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn."

Gall sefydliadau gyflwyno cais drwy fynd i: https://www.abertawe.gov.uk/GrantGaeafLlawnLles2024

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Mercher 20 Tachwedd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2024