Toglo gwelededd dewislen symudol

Dilynwch ein hymgyrch Pump Penigamp i ddathlu Abertawe

Rydym wedi lansio ymgyrch #PumpPenigamp ar y cyfryngau cymdeithasol i atgoffa pobl bod Abertawe'n lle gwych.

Fantastic Five

Fantastic Five

Yn ystod yr wythnosau i ddod, bydd cyhoeddiadau ar dudalennau Facebook ac Instagram y cyngor yn canolbwyntio ar bobl, traethau, parciau, digwyddiadau a diwylliant penigamp y ddinas.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae gan Abertawe gynifer o gryfderau. O'n pobl groesawgar a thalentog i'n traethau nodedig, ein parciau bendigedig a'n diwylliant a'n digwyddiadau o'r radd flaenaf, dyma le gwych i fyw.

"A'r newyddion da yw bod y ddinas yn dal i wella, wrth i'r buddsoddiad gwerth £1bn yn y ddinas barhau i greu rhagor o swyddi i bobl leol a denu rhagor o fusnesau yma.

"Mae ymgyrch #PumpPenigamp yn ffordd o ddathlu Abertawe a dangos ein bod yn falch o fyw yma."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Medi 2024