Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynegwch eich barn yr wythnos nesaf am hwb sector cyhoeddus arfaethedig

Gofynnir am adborth ynghylch cynnig ar gyfer hwb sector cyhoeddus mawr newydd yng nghanol dinas Abertawe yr wythnos nesaf.

Swansea Central Block B

Swansea Central Block B

Byddai'r hwb sector cyhoeddus pum llawr a glustnodir ar gyfer tir yn hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn cynnwys mannau masnachol ar gyfer siopau a bwytai, ynghyd â swyddfeydd uwchben y rhain i'r cyngor ac amrywiaeth o bartneriaid eraill o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Cynhelir digwyddiad gwybodaeth ac ymgynghori galw heibio ynghylch yr hwb sector cyhoeddus newydd o ddydd Mawrth 13 Awst tan ddydd Iau 15 Awst yn hen uned siop gerddoriaeth Cranes yn ardal hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.

Dyma amserau'r ymgynghoriad:

  • Dydd Mawrth 13 Awst: 1.00pm i 7.00pm
  • Dydd Mercher 14 Awst: 1.00pm i 7.00pm
  • Dydd Iau 15 Awst: 9.00am i 1.00pm

Cyhoeddir hefyd wefan lle gall pobl weld y cynlluniau a rhoi adborth pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mawrth.

Ar y cam hwn, gofynnir am adborth am ddyluniad a golwg yr adeilad, a fyddai'n bodloni'r safonau uchaf o ran cynaliadwyedd.

Bydd hefyd ragor o gyfleoedd i fynegi barn fel rhan o'r broses gynllunio yn y dyfodol. 

Gallai bron 1,000 o bobl weithio yno.

Byddai'r hwb sector cyhoeddus yn galluogi safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr i gael ei ailddatblygu, gan hefyd gefnogi masnachwyr yng nghanol y ddinas oherwydd nifer yr ymwelwyr a fyddai'n cael eu denu.

Byddai'r cyngor ac Urban Splash yn datblygu'r hwb sector cyhoeddus arfaethedig. Byddai'r berchnogaeth yn aros yn nwylo'r cyngor. Hwn fyddai cam cyntaf y broses o ddatblygu'r safle'n gyffredinol dan arweiniad Urban Splash, sy'n parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer gweddill y safle.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae angen i ragor o bobl weithio a byw yng nghanol dinas Abertawe i gefnogi masnachwyr a chyflogaeth sydd eisoes yn bodoli, creu swyddi newydd ac annog rhagor o siopau a busnesau eraill i agor yn y dyfodol.

"Bydd yr hwb sector cyhoeddus arfaethedig yn helpu i ddiwallu'r angen hwnnw oherwydd nifer y gweithwyr ychwanegol a fydd yn gwario eu harian mewn bwytai, siopau, caffis a busnesau eraill yng nghanol y ddinas.

"Yn amodol ar adborth ymgynghoriad a chaniatâd cynllunio, adeiladu'r hwb fyddai cam nesaf y gwaith trawsnewid gwerth £1bn yng nghanol y ddinas, gan ddilyn cynlluniau fel Arena Abertawe, adfer Theatr y Palace a datblygu swyddfeydd newydd ar gyfer tenantiaid y sector preifat yn 71/72 Ffordd y Brenin.

"Mae'r cynllun yn rhan o'n hymrwymiad i adfywio canol dinas Abertawe a chreu cyrchfan blaenllaw i ymweld ag ef, ei fwynhau, a gweithio, byw ac astudio ynddo."

Meddai David Warburton, cyfarwyddwr datblygu Urban Splash, "Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol. Rydym yn gobeithio cynnwys eu hadborth i sicrhau bod y cynigion hyn i greu hwb masnachol bywiog gydag amwynderau gwych, cyfleoedd swyddi ac ecosystem newydd sy'n ffynnu, yn diwallu anghenion tymor hir y ddinas."

Mae Urban Splash hefyd yn parhau i weithio ar gynigion ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig. Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi adborth am y rhain ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

Disgwylir i'r gwaith i adeiladu'r hwb sector cyhoeddus ddechrau yng nghanol 2025, yn amodol ar ymgynghoriad a chaniatâd cynllunio.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Awst 2024