Blaenoriaethau trafnidiaeth ar gyfer De-orllewin Cymru'n cael eu datgelu
Mae gwelliannau i helpu i wneud bysus a threnau'n ateb mwy ymarferol na theithio mewn car wedi'u nodi fel prif flaenoriaeth trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.
Dewisodd dros 70% o bobl a gymerodd ran mewn ymgynghoriad diweddar welliannau o'r fath fel y rhai pwysicaf y gellid eu cyflwyno i wella trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Roedd dros 800 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y ddadl o blaid newid mewn perthynas â chynllun trafnidiaeth rhanbarthol, a gynhaliwyd gan Gyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) De-orllewin Cymru.
Mae blaenoriaethau eraill y tynnwyd sylw atynt yn yr ymgynghoriad yn cynnwys mwy o opsiynau trafnidiaeth ar gyfer ardaloedd gwledig, gwell cysylltiad rhwng gwasanaethau trafnidiaeth gwahanol ynghyd â chynnal a chadw ffyrdd, llwybrau troed a llwybrau beicio'n well.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd CBC De-orllewin Cymru, "Gwyddwn fod angen gwelliannau trafnidiaeth ar draws De-orllewin Cymru er budd ein preswylwyr a'n busnesau ac i helpu i ddenu mwy o swyddi a buddsoddiad i'r ardal.
"Er hynny, mae barn pobl am yr hyn y dylid ei flaenoriaethu yn y dyfodol yn hanfodol bwysig, felly hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar.
"Bydd pob barn a dderbyniwyd bellach yn helpu i lywio Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft a fydd hefyd ar gael i roi adborth arno yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd."
Yn ôl canfyddiadau diweddar eraill yr ymgynghoriad, roedd 92% o ymatebwyr yn dweud bod teithiau lle'r oedd angen dal mwy nag un bws neu drên yn anodd, roedd 91% yn cytuno bod diffyg gwasanaethau trên mewn rhai ardaloedd yn fater allweddol a nododd 87% nad yw cerdded a beicio bob amser yn ymarferol i rai pobl.
Meddai'r Cyng. Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr a Chadeirydd is-grŵp trafnidiaeth y CBC, "Mae angen system drafnidiaeth arnom yn Ne-orllewin Cymru sy'n diwallu anghenion yr oes hon wrth gysylltu ein cymunedau'n well.
"Mae hyn yn bwysig oherwydd bod trafnidiaeth yn effeithio ar bob yr un ohonom - p'un a ydych yn fodurwr, yn ddefnyddiwr bysus neu drenau neu'n rhywun sy'n cerdded neu'n beicio i fynd o un lle i'r llall.
"Unwaith y bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gael i roi adborth arno, byddwn yn sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn cael cyfle eto i ddweud eu dweud."
Mae Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.
Mae is-grwpiau hefyd wedi'u sefydlu i gyfrannu gwybodaeth i'r pwyllgor am y themâu gan gynnwys trafnidiaeth.