Toglo gwelededd dewislen symudol

Archwilio cefnogaeth am gynnig newydd ar gyfer fferi yn Abertawe

Gofynnir i breswylwyr a busnesau a fyddent yn cefnogi'r posibilrwydd o gyflwyno gwasanaeth fferi gyflym heb allyriadau rhwng Abertawe a De-orllewin Lloegr.

Swansea Beach

Swansea Beach

Mae ymarferoldeb y syniad yn cael ei archwilio gan gwmni morol arbenigol o'r enw Ocean, diolch i gyllid gan gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Ar y cam hwn, mae pobl yn cael eu hannog i fynd yma i gael rhagor o wybodaeth, gadael sylwadau a bwrw pleidlais 'ydw' nac ydw' neu 'efallai'.

Gan ddibynnu ar adborth, lefel y gefnogaeth gyhoeddus a'r galw, mae'n bosib y gallai gwaith pellach gael ei wneud wedyn i archwilio manylion fel llwybrau, amserlenni, lleoedd a dyluniadau ar gyfer y cwch.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae gan y cysyniad o fferi gyflym heb allyriadau'r potensial i liniaru tagfeydd traffig, wrth hybu'r diwydiant twristiaeth lleol sydd eisoes yn werth dros £600m y flwyddyn i economi Abertawe ymhellach.

"Gallai wedyn gefnogi ein gweledigaeth i ddod yn ddinas sero net, creu swyddi i bobl leol a chryfhau'r cysylltiadau rhwng Abertawe a De-orllewin Lloegr.

"Ond mae'r prosiect yn ei gamau cynnar, a bydd yr adborth ynghylch a oes cefnogaeth ar gyfer y syniad neu beidio yn allweddol wrth benderfynu ar y camau nesaf posib.

"Dyma pam y gofynnaf i gynifer o breswylwyr a busnesau â phosib fynd i'r wefan sydd wedi'i datblygu i fwrw eu pleidlais."

Meddai Dave Sampson, sylfaenydd Ocean, "Ein nod yw archwilio'r galw am wasanaethau fferi cyfforddus, effeithlon, fforddiadwy a chynaliadwy sy'n cysylltu Abertawe â chyrchfannau allweddol ar draws Môr Hafren.

"Mae gwasanaethau fferi heb allyriadau'n dod â manteision ariannol drwy ddenu ymwelwyr newydd a gweithgarwch masnachol, wrth helpu'r DU hefyd i gyflymu'r newid tuag at atebion morol glanach yn ehangach.

"Gallai'r cysyniad hwn fod yn lasbrint byd-eang ar gyfer teithio cynaliadwy ar draws rhanbarthau arfordirol.

"Rwy'n gobeithio, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, y gall ymchwil gefnogi cwmnïau yn Abertawe, De-orllewin Cymru a De-orllewin Lloegr i arloesi ac ysgogi twf morol glân, ond caiff gwaith dichonoldeb pellach ar y cynnig hwn ei wneud dim ond os oes digon o gefnogaeth ar ei gyfer."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Mawrth 2025