Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mwyafrif enfawr yn ffafrio cysyniad y fferi

Mae gwasanaeth fferi gyflym heb allyriadau arfaethedig a fydd yn cysylltu Abertawe â de-orllewin Lloegr wedi ennyn ymateb calonogol hyd yn hyn.

Swansea Beach

Swansea Beach

Mae mwy na 3,000 o bobl eisoes wedi pleidleisio mewn arolwg ar-lein a lansiwyd yn gynharach y mis hwn, gyda thros 98% yn dweud y byddent yn cefnogi'r fenter.

Mae ymarferoldeb y syniad yn cael ei archwilio gan gwmni morol arbenigol o'r enw Ocean, diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Ar y cam hwn, mae pobl yn cael eu hannog i fynd i'r wefan hon i gael rhagor o wybodaeth, gadael sylwadau a bwrw pleidlais 'ydw', 'nac ydw' neu 'efallai'.

Bwriedir cynnal ymchwil debyg maes o law ar gyfer de-orllewin Lloegr.

Gan ddibynnu ar adborth, lefel y gefnogaeth gyhoeddus a'r galw, mae'n bosib y gallai gwaith pellach gael ei wneud wedyn i archwilio manylion fel llwybrau, amserlenni, nifer y lleoedd ar y cwch a'r dyluniadau ar ei gyfer.

Meddai Dave Sampson, Prif Weithredwr Ocean, "Mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn, a bydd pob sylw a gyflwynir yn cael ei ddefnyddio wrth i ni ystyried sut orau i ddatblygu'r potensial ar gyfer y prosiect hwn.

"Mae'r canfyddiadau cynnar yn dangos diddordeb mawr mewn gwasanaeth croesi heb allyriadau a allai leihau pwysau ar brif ffyrdd wrth hybu twristiaeth ac arloesedd ar draws y rhanbarth, ond byddem yn annog unrhyw un nad yw wedi cymryd rhan eto yn yr arolwg i fynd i'r wefan i fynegi ei farn.

"Mae pwysigrwydd cynaliadwyedd yn thema sy'n codi dro ar ôl tro yn yr adborth hyd yma, ac mae pobl hefyd wedi mynegi eu pryderon ymarferol ynghylch fforddiadwyedd, amodau'r llanw, isadeiledd, amserlenni, effaith amgylcheddol, y gallu i wrthsefyll y tywydd a'r angen i roi'r diweddaraf i gymunedau lleol.

"Mae'r pryderon hyn - ynghyd â manylion fel dyluniadau ar gyfer y fferi, llwybrau, nifer y lleoedd a fydd arni ac opsiynau ariannu - yn cael eu harchwilio'n fanwl a'u cyflwyno ar gyfer adborth os bydd diddordeb y cyhoedd mewn archwilio'r cysyniad ymhellach yn parhau."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd adborth gan breswylwyr, busnesau a chymunedau ynghylch y syniad hwn yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth benderfynu a ddylid cymryd y camau nesaf ai peidio.

"Gan ddibynnu ar ymarferoldeb y syniad, mae gan wasanaeth fferi gyflym heb allyriadau'r potensial i hybu ein diwydiant twristiaeth ymhellach, creu swyddi i bobl leol, lleihau tagfeydd a chyfrannu at ein gweledigaeth i fod yn ddinas sero net.

"Gallai ategu rhaglen fuddsoddi gwerth dros £1bn sy'n mynd rhagddi yn Abertawe i wneud eich dinas yn gyrchfan blaenllaw i weithio, byw ac astudio ynddo, ei fwynhau ac ymweld ag ef."

Mae sylwadau eraill sy'n rhan o'r ymchwil hyd yma'n dangos pwysigrwydd llwytho a dadlwytho'n gyflym os yw'r cynllun i fynd yn ei flaen yn y dyfodol.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mawrth 2025