Canol y ddinas yn paratoi ar gyfer y Nadolig mwyaf llawen eto
O gyfaredd Fictoraidd i oleuadau pefriog, marchnadoedd nwyddau o safon a cherfluniau iâ, bydd mwy o hwyl yr ŵyl nag erioed o'r blaen i breswylwyr ac ymwelwyr yng nghanol dinas Abertawe'r Nadolig hwn.
Mae'r tymor yn dechrau gydag ychwanegiad newydd - Ffair Nadolig Fictoraidd Abertawe - a gynhelir o ddydd Iau 20 Tachwedd i ddydd Sul 23 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad traddodiadol ei naws hwn ar Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street yn dod â hud oes a fu i ganol y ddinas. Gall ymwelwyr ddisgwyl tua 50 o stondinau crefftwyr, masnachwyr wedi'u gwisgo mewn gwisgoedd Fictoraidd, bwyd stryd, adloniant gan berfformwyr crwydrol a pherfformiadau byw drwy gydol y penwythnos.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth ag LSD Promotions.
Meddai'r Cynghorydd David Hopkins, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyflawni, "Canol dinas Abertawe fydd y lle i fod y Nadolig hwn, gyda mwy o hwyl yr ŵyl nag erioed o'r blaen.
"Rydym yn falch o ddod â ffefrynnau poblogaidd yn ôl, ochr yn ochr ag ychwanegiadau cyffrous fel Ffair Nadolig Fictoraidd a sawl digwyddiad newydd arall ar gyfer 2025.
"Mae'r digwyddiadau hyn yn dod â llawenydd i breswylwyr ac ymwelwyr, a hefyd yn cefnogi masnachwyr lleol ac yn arddangos canol ein dinas fel cyrchfan gwych drwy'r flwyddyn gron gyfan."
Mae'r dathliadau'n parhau gyda dychwelyd Marchnad Nadolig Abertawe rhwng dydd Sadwrn 29 Tachwedd a dydd Llun 22 Rhagfyr, gan gynnig cymysgedd clyd o fwyd, diod ac anrhegion Nadoligaidd ar Stryd Rhydychen, sy'n cynnwys y bar Alpaidd Nadoligaidd a rhaglen adloniant yng Nghaban y Carolwr. Eleni bydd gan y farchnad atyniad newydd ar benwythnosau allweddol hefyd - Pabell Fawr y Crefftwyr.
Ar ddechrau mis Rhagfyr cynhelir yr Ŵyl Tân ac Iâ ysblennydd ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr a dydd Sul 7 Rhagfyr, lle gall ymwelwyr ddarganfod llwybr cerfluniau iâ trawiadol o amgylch canol y ddinas, rhoi cynnig ar gerfio iâ ar wal cerfio iâ ryngweithiol, tynnu lluniau o'r eiliadau hudolus y tu mewn i'r glôb eira, a phrofi cyffro sioeau cerfio iâ gyda llif gadwyn, gyda phyrotechneg ffrwydrol.
Bydd cerddoriaeth fyw hefyd yng Nghaban y Carolwr
Mae'r dathliadau'n parhau gydag Uchelwydd a Marchnadoedd ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr a dydd Sul 14 Rhagfyr - penwythnos llawn cerddoriaeth fyw, perfformwyr sy'n cerdded o gwmpas yr ardal ac adloniant i'r teulu ym Marchnad Nadolig Abertawe a Marchnad Abertawe.
Bydd ffefrynnau'r ŵyl hefyd yn ôl ar gyfer 2025, gan gynnwys Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ym Mharc yr Amgueddfa o ddydd Gwener 21 Tachwedd, lle bydd llyn sglefrio, reidiau Nadoligaidd a bwyd i bob oedran.
Yna ddydd Sul 23 Tachwedd, daw strydoedd Abertawe'n fyw ar gyfer Gorymdaith Nadolig 2025, gyda cherbydau sioe, bandiau, corau, dawnswyr, archarwyr, cymeriadau sy'n goleuo, a Siôn Corn yn cynnau goleuadau Nadolig y ddinas yn goron ar y cyfan.
