Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hwyl yr ŵyl ar eich stepen drws wrth i'r ddinas ddathlu

​​​​​​​Mae'n dechrau edrych yn Nadoligaidd iawn yn Abertawe.

Xmas Market Singers

Xmas Market Singers

Mae llun o atyniadau a gweithgareddau ar gynnig gan y cyngor a'i bartneriaid i sicrhau bod preswylwyr yn cael tymor yr ŵyl bendigedig.

Meddai aelod cabinet cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies,"Rydym yn helpu teuluoedd lleol i ddathlu'r Nadolig gydag amrywiaeth o weithgareddau ac atyniadau penigamp. Mae rhai am ddim ac eraill yn rhad felly bydd hyn yn helpu pobl ar yr adeg anodd hon i gyllidebau aelwydydd."

Meddai cyd-aelod y cabinet, Elliot King, "Bydd ein dathliadau ar gyfer y Nadolig yn helpu i dynnu sylw at ganol y ddinas, gan ddenu preswylwyr ac ymwelwyr er mwyn cefnogi'n busnesau niferus rhagorol sy'n parhau i chwarae rôl bwysig yn ein rhaglen adfywio gwerth £1bn."

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, sy'n rhedeg tan 8 Ionawr, yn dod â naws pentref alpaidd i'r ddinas.

Cynhelir Marchnad Nadolig canol y ddinas tan 21 Rhagfyr. Mae miloedd o opsiynau ar gael hefyd ar gyfer anrhegion yng nghanolfan Siopa'r Cwadrant, gyda'i siopau'r stryd fawr.

Mae'r pantomeim Beauty and the Beast yn ymddangos yn Theatr y Grand Abertawe tan 15 Ionawr. Cynhelir cyngerdd dathliadau'r Nadolig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn ar 14 Rhagfyr. Mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn gwahodd y rheini sy'n dwlu ar gerddoriaeth i ymuno â nhw ar 17 ac 18 Rhagfyr ar gyfer Carolau yn y Castell.

Mae calendr Nadolig Abertawe'n cynnwys nifer o atyniadau am ddim neu gost isel.

Ceir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a chynhelir Marchnad Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Gaeaf yno o 9 i 11 Rhagfyr.

Mae gan Amgueddfa Abertawe arddangosfeydd a digwyddiadau am ddim gan gynnwys Llwybr Llygod yr Amgueddfa. Cynhelir arddangosfa rhaglen deledu His Dark Materials yn y Glynn Vivian, ac mae mynediad am ddim.

Mae llyfrgelloedd Abertawe yn cynnal digwyddiadau sy'n rhad ac am ddim. Maent yn cynnwys cyfle i wneud eich addurn Nadolig eich hun yn y Llyfrgell Ganolog ar 15 Rhagfyr.

Rhagor o wybodaeth: Croesobaeabertawe.com

Llun: Marchnad Nadolig Abertawe.

Close Dewis iaith