Toglo gwelededd dewislen symudol

Daeth miloedd o bobl i wylio Arddangosfa Tân Gwyllt Abertawe nos Fercher

Roedd yr arddangosfa, a drefnwyd gan Gyngor Abertawe, ar thema archarwyr, a dechreuodd y digwyddiad gydag amserlen o adloniant ardderchog cyn y sioe. Roedd perfformiadau byw wedi'u hysbrydoli gan gymeriadau ffilm a theledu poblogaidd fel sesiwn ddawnsio K-pop Demons, sesiwn ddawnsio ryngweithiol gyda Spiderman a chystadleuaeth ddawnsio rhwng Deadpool a Wolverine.

Fireworks in 2019

Fireworks in 2019

Dilynwyd hyn gan arddangosfa tân gwyllt hudol 20 munud o hyd a oedd yn cyd-fynd â chaneuon eiconig o ffilmiau archarwyr enwog.

Roedd y digwyddiad cyffrous yn cynnig mwy nag adloniant yn yr awyr ac ar y llwyfan yn unig - roedd hefyd arwyr poblogaidd fel Batman a Wonder Woman a hoff ddihirod y genedl Joker a Harley Quinn yn rhyngweithio ag ymwelwyr ac yn sefyll i dynnu lluniau.

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Am noson anhygoel yn San Helen! O gystadlaethau dawnsio rhwng archarwyr i arddangosfa tân gwyllt ardderchog, mae Abertawe wedi cyflwyno sioe o safon unwaith eto.

"Yn ogystal â dod â'r gymuned ynghyd, mae digwyddiadau fel hyn yn sicrhau y gall pawb fwynhau tân gwyllt mewn amgylchedd diogel wedi'i reoli'n dda.

"Diolch yn fawr iawn i'r perfformwyr, y trefnwyr, a'r rheini a oedd yno. Edrychwn ymlaen yn awr at barhau â'r dathliadau gyda Gorymdaith y Nadolig a gynhelir cyn bo hir."

Mae Cyngor Abertawe'n gyffrous i gyhoeddi bod Gorymdaith y Nadolig boblogaidd yn dychwelyd ddydd Sul, 23 Tachwedd am 5pm. Mae digwyddiad eleni'n cynnwys llwybr newydd sbon, sy'n dechrau o Neuadd y Ddinas Abertawe ac yn mynd drwy ganol y ddinas. Bydd cerbydau sioe lliwgar, goleuadau disglair ac adloniant Nadoligaidd i bob oedran. Mae'n sicr o fod yn ffordd wych o fynd i hwyl yr ŵyl.

Am ragor o wybodaeth neu i weld map o'r llwybr a manylion yr adloniant, ewch i: croesobaeabertawe.com 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Tachwedd 2025