Mae arddangosfa tân gwyllt fwyaf Abertawe'n dychwelyd yn ei holl ogoniant!
Bydd Cyngor Abertawe'n croesawu ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ôl y mis nesaf - a gellir mynd iddi am ddim.
Disgwylir i filoedd o bobl ddod i wylio'r arddangosfa arbennig dros Fae Abertawe nos Sadwrn, 5 Tachwedd, am 7pm.
Bydd yr arddangosfa oddi ar y traeth ar ysgraff, a bydd yn goleuo dyfroedd y bae wrth i'r tân gwyllt ffrwydro yn yr awyr.
Mae'r noson yn dechrau am 6pm a bydd adloniant cyn y sioe gan gynnwys sioe dân, diddanwyr wedi'u goleuo a pherfformwyr yn cerdded o gwmpas y lle. Bydd gwerthwyr bwyd yn agor am 6pm.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn darparu digwyddiadau gwych i bobl Abertawe eu mwynhau - a dyma ddigwyddiad allweddol yn ein rhaglen flynyddol.
"Mae'n ddiogel ac, oherwydd y pwysau ar gyllidebau aelwydydd eleni, rydym wedi penderfynu gwneud y digwyddiad yn un am ddim unwaith eto."
I sicrhau diogelwch gwylwyr bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5pm i 9pm - Oystermouth Road/Mumbles Road o Glamorgan Street i Brynmill Lane a Pantycelyn Road rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road.
Darperir y digwyddiad gan y cyngor a chaiff ei gefnogi gan Nathaniel Cars a Choleg Gŵyr Abertawe.
Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com