200 o ddisgyblion ychwanegol i elwa o'r rhaglen Dechrau'n Deg
Disgwylir i 200 o blant ychwanegol elwa o ehangiad i raglen Dechrau'n Deg boblogaidd Abertawe, sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd teuluoedd y mae angen y rhaglen arnynt fwyaf.
Dyma fydd cam cyntaf yr ehangiad i ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar yn y ddinas, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Gyngor Abertawe.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad polisi i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Bydd Abertawe'n gweld 200 o blant ychwanegol rhwng 0 a 4 oed yn cael mynediad at gefnogaeth Dechrau'n Deg, gan gynnwys hyd at 12.5 awr yr wythnos o ofal plant o safon a ariennir i blant 2 oed nes i hawliad dosbarth meithrin y cyfnod sylfaen ddechrau; mwy o gefnogaeth gan ymwelwyr iechyd; yn ogystal â chefnogaeth gydag iaith, lleferydd, cyfathrebu a magu plant.
Yn seiliedig ar arweiniad Llywodraeth Cymru, bydd yr awdurdod lleol yn targedu'r cam hwn o'r ehangiad tuag at gymunedau penodol Treforys, Clydach a Mynydd-bach.
Yn ystod cam cyntaf yr ehangiad bydd yr holl deuluoedd cymwys yn clywed gan eu Hymwelydd Iechyd maes o law, a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys gofal plant.
Gall teuluoedd sydd am gael cyngor pellach ar gymhwysed neu sydd am gael cefnogaeth i nodi darpariaeth gofal plant addas arall ddarllen am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn https://www.abertawe.gov.uk/ggd ffonio 01792 517222.