Gofal plant Dechrau'n Deg yn ehangu ar draws Abertawe
Mae teuluoedd yn Abertawe bellach yn gymwys i dderbyn gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg.
Mae hyn yn caniatáu i rieni a gofalwyr gael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel i blant dwy a thair oed am hyd at 12.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig.
Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru ac fe'i gweinyddir gan Gyngor Abertawe, a gall teuluoedd ddewis o amrywiaeth o ddarparwyr gan gynnwys lleoliadau mewn ysgolion, meithrinfeydd preifat, cylchoedd meithrin a gwarchodwyr plant.
Gwnaed cynnydd eisoes drwy ddull fesul cam a gall pob plentyn o oedran cymwys bellach elwa o'r fenter, ni waeth ble mae'n byw yn Abertawe.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Mae cyllid gofal plant Dechrau'n Deg yno i roi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant ifanc.
"Byddwn yn annog rhieni neu ofalwyr i fanteisio ar y cynnig gan y gall wneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i blant."
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Ni waeth ble rydych chi'n byw yn Abertawe, gall pob rhiant a gofalwr bellach wneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg nawr ein bod wedi cwblhau'r gwaith cyflwyno.
"Mae hyn ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau a thrwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am ariannu'r fenter hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant ifanc a'u teuluoedd."
Gellir gwneud ceisiadau gan ddefnyddio'r offeryn ar-lein hwn:
https://www.abertawe.gov.uk/cymhwyseddGofalPlantDechraunDeg
Anogir rhieni a gofalwyr hefyd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222 neu drwy e-bostio Fis@abertawe.gov.uk.
