Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae angen eich help ar Fanciau Bwyd yn Abertawe

Gofynnir i breswylwyr yn Abertawe barhau i gefnogi'r rhwydwaith o fanciau bwyd yn y ddinas, os yw hynny'n bosib, o ganlyniad i alw cynyddol gan fod mwy a mwy o bobl yn cael anhawster fforddio'r hanfodion.

Swansea Food Banks

Swansea Food Banks

Fel rhan o gymorth Cyngor Abertawe ar gyfer preswylwyr sy'n cael anhawster gyda'r argyfwng costau byw mae'r Cyngor wedi sicrhau bod grantiau rheolaidd ar gael ar gyfer grwpiau ac elusennau yn y ddinas sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd, gan gynnwys banciau bwyd, a'r haf hwn mae'r Cyngor wedi bod yn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer sefydliadau sy'n helpu i fwydo plant yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Rydw i'n gwybod bod nifer o bobl yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd,  ond os gall pobl gefnogi banciau bwyd byddant yn gwneud cyfraniadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn wrth helpu pobl eraill yn Abertawe, gan fod y galw cynyddol yn effeithio'n sylweddol ar lefelau stoc."

Croesewir rhoddion ac mae manylion am sut i roi eitemau ar gael ar ein gwe-dudalen - www.abertawe.gov.uk/bancbwyd 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Awst 2024