Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau ar gael nawr i roi hwb i gymorth tlodi bwyd

Gall elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Abertawe nawr wneud cais am gyllid i gefnogi eu gwaith.

Foodbank generic

Y llynedd derbyniodd y cyngor 80 o geisiadau llwyddiannus am arian gan Lywodraeth Cymru, gyda sefydliadau'n dweud ei fod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer y bobl yr oeddent wedi gallu eu helpu.

Mae grantiau newydd ar gael i hybu mentrau bwyd cymunedol presennol sy'n cefnogi pobl yn Abertawe sy'n wynebu tlodi bwyd yn ystod yr argyfwng costau byw.

Gall y rhain gynnwys archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio a dosbarthiadau coginio cymunedol a gallent fod ar gyfer ystod o ddefnyddiau, o brynu bwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol i ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer mentrau fel gwaith allgymorth, hyfforddiant i wirfoddolwyr a datblygu hybiau cymunedol a all hefyd ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth.

Gall y grantiau refeniw hefyd gefnogi gorbenion a chostau gwirfoddolwyr.

I wneud cais ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cronfaCymorthBwydUniongyrchol

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 28 Gorffennaf 2023.

I gysylltu â'r Gwasanaeth Trechu Tlodi e-bostiwch: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Gorffenaf 2023